Mae Joao Havelange o Brasil, oedd wrth y llyw pan drawsnewidiwyd Fifa i fod yn fusnes hynod lwyddiannus, wedi marw yn 100 mlwydd oed.

Fo oedd yn gyfrifol am ehangu Cwpan y Byd i gynnwys 32 yn hytrach na 16 o dimau yn ogystal a chyfrannu at ei gwneud yn un o ddigwyddiadau pwysicaf chwaraeon.

Trefnodd chwe’ Cwpan y Byd fel llywydd Fifa rhwng 1974 a 1998 pan gafodd ei ddisodli gan Sepp Blatter.

Roedd yn gyfrifol hefyd am negyddu cytundebau darlledu mawr, gwahodd mwy o genhedloedd i mewn i Fifa a chreu Cwpan y Byd y Merched.

Ond gyda’r arian daeth honiadau o lygredd gan ei swyddogion uchaf. Yn 2013, dywedodd adroddiad gan Fifa bod ymddygiad Joao Havelange wedi bod “yn foesol gywilyddus” ond ni cafodd ei gosbi. Yn hytrach, cafodd ymddiswyddo o fod yn lywydd anrhydeddus i Fifa yn 2013.