Francesco Guidolin yn wynebu'r wasg am y tro cynta'r tymor hwn

Ar drothwy tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair, mae gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers yn dweud bod rhaid i Francesco Guidolin brofi ei hun yn ei dymor llawn cyntaf yn rheolwr ar Abertawe…

Rheolwr ar ei gyfnod prawf oedd Francesco Guidolin, i bob pwrpas, y tymor diwethaf. Fe ddaeth yr Eidalwr i Abertawe dan gwmwl ar ôl i un o hoelion wyth a ffefrynnau’r Liberty, Garry Monk golli ei swydd. Roedd yr Elyrch, bryd hynny, yn ddeunawfed yn yr Uwch Gynghrair ac yn hwylio’n nes ac yn nes at y gwynt gyda phob gêm âi heibio.

Fe lywiodd Guidolin y tîm i’r lan unwaith eto erbyn mis Mai. Fe gafodd gytundeb newydd i aros yn barhaol ac mae ei waith o osod ei stamp ei hun ar y garfan eisoes wedi dechrau, gydag arwyddo Fernando Llorente, Borja Baston, Martin van Hoorn, Tyler Reid a Mark Birighitti dros y misoedd diwethaf.

Ond mae tymor siomedig yr Elyrch yn 2015-16 wedi costio’n ddrud iddyn nhw. All neb cwestiynu ymroddiad na llwyddiant y cadeirydd Huw Jenkins yn stori Abertawe dros y degawd diwethaf. Ond roedd y cyfnod cyn penodi Guidolin ym mis Ionawr mewn perygl o droi’n ffars.

Collodd Monk ei swydd ar Ragfyr 9, 2015. Trodd Abertawe eu sylw wedyn at Marcelo Bielsa – neu ‘El Loco’, y Dyn Gwallgof. Rheolwr Sevilla, Jorge Sampaoli, wedyn yn cael ei gysylltu â’r swydd hefyd. Ac wedyn un arall, ac un arall, ac un arall. Roedd yr ochenaid o ryddhad o du’r Liberty yn groch wedyn pan ddaeth cadarnhad fod y tîm, am y tro o leiaf, yn nwylo Alan Curtis – un sydd wedi ennill statws eilun yn y ddinas dros ddegawdau lu. Ond ateb dros dro yn unig fyddai troi at y gŵr y mae’n well ganddo fod yn rhif dau nag yn arwain y sioe.

Ynghanol hyn oll, fe ddaeth cadarnhad fod Guidolin ar ei ffordd i’r Liberty fel rhyw Feseia fyddai’n gallu gwyrdroi’r sefyllfa ar unwaith – ac yn ôl â Curtis i’r cysgodion unwaith eto. Roedd modd cydymdeimlo â Guidolin i ryw raddau. Roedd ganddo fe chwe mis i’w brofi ei hun. Y teimlad yn gyffredinol yw ei fod e wedi llwyddo i wneud hynny, ond rhaid iddo fe fynd gam ymhellach y tymor hwn. Ei dîm e fydd ar y cae y tymor hwn, ei staff e fydd ar yr ymylon, a’i syniadau fe fydd, gobeithio, yn arwain at dymor tipyn mwy llewyrchus yn 2016-17.

Roedd y sioc o golli ei gapten Ashley Williams i Everton mor agos at ddechrau’r tymor yn dal i’w weld ar ei wyneb ddydd Iau, wrth iddo wynebu’r wasg ar drothwy’r gêm gyntaf yn Burnley. Mae Abertawe’n sicr wedi dioddef yn sgil llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 dros yr haf. Fe ddioddefon nhw ergyd ddwbl o golli’r cyfle i arwyddo Joe Allen – ond stori arall yw honno.

Does ond gobeithio na fydd y golled ar ôl Williams i’w theimlo o hyd ar gae Turf Moor am 3 o’r gloch ddydd Sadwrn. Bydd ei absenoldeb yn sicr yn ergyd i amddiffyn yr Elyrch. Ond fel mae Guidolin ei hun wedi bod yn awyddus i’w ddangos, mae mwy o ddyfnder yn y garfan eleni na’r llynedd. Fe ddaeth Martin van Hoorn i mewn o Ajax dros yr haf, ac fe allai alw ar Jordi Amat i lenwi’r bwlch am y tro – er, dw i ddim yn ei weld yn olynydd parhaol i Williams, fel wnes i awgrymu’r adeg yma’r llynedd. Mae ymadawiad ‘Ash’ yn golygu hefyd y bydd mwy o bwysau ar ei bartner Federico Fernandez yng nghanol yr amddiffyn. Kyle Bartley ddaeth i’r adwy ddechrau’r tymor diwethaf, ond mae hwnnw bellach ar fenthyg yn Leeds.

Os yw dyfodol yr amddiffyn – yn y tymor byr, beth bynnag – yn sigledig, yna mae’r dyfodol ymhlith yr ymosod yn edrych dipyn yn fwy cadarn erbyn hyn. Mae’r Elyrch wedi’i chael yn anodd ers 18 mis i ddod o hyd i ymosodwr fyddai’n gallu llenwi esgidiau Wilfried Bony. Wnaeth Bafetimbi Gomis ddim tanio tan yn gymharol hwyr, mae Alberto Paloschi wedi mynd a dod o fewn dim o dro ac mae Gylfi Sigurdsson ar ei ben ei hun yn y rheng flaen wedi dangos mai chwaraewr canol cae ymosodol yw e, yn hytrach na blaenwr sy’n gallu chwarae ar ei ben ei hun. Ac mae colli Andre Ayew yn golygu bod yr Elyrch wedi colli rhywun sy’n gallu cyfrannu at y cyfanswm goliau.

Mae Guidolin, o’r diwedd, wedi awgrymu y gallai ddewis dau ymosodwr ar ffurf 4-4-2 neu 3-5-2. Dydy un blaenwr ar ei ben ei hun – boed Bony neu Gomis neu Paloschi – ddim wedi dwyn ffrwyth. Ond gydag arwyddo Fernando Llorente a Borja Baston, fe ddaeth gwawr newydd ar y Liberty. Mae Guidolin yn cyfaddef nad yw’n gwybod fawr ddim am Baston, ond mae’r ffaith e fod e wedi costio £15.5 miliwn – sy’n record i’r Elyrch – yn awgrymu bod gan y clwb dipyn o feddwl o gyn-ymosodwr Atletico Madrid. Mae’r ffaith fod Abertawe’n denu chwaraewyr o glybiau mor nodedig yn adrodd cyfrolau hefyd.

Pe baech chi’n gwrando ar y gwybodusion dros y dyddiau diwethaf, fe daerech chi ei bod hi ar ben ar Abertawe. Mae’r rhan fwyaf yn darogan tymor diflas i’r Cymry, a rhai – fel Jamie Carragher – hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu cwymp o’r Uwch Gynghrair. Ond mae cyfle bellach yn yr ‘Oes Ôl-Ash’ i brofi y gall y clwb symud ymlaen – fe wnaethpwyd hynny ar ôl cyfnod Monk wrth y llyw, ac mae’n bosib gwneud hynny eto. Mae Guidolin wedi cael amser i ail-adeiladu’r garfan – mae’r gwaith hwnnw’n parhau. Mae’n bryd nawr i’r chwaraewyr dorchi’u llewys.