Mae West Brom wedi derbyn cynnig gan Aston Villa am amddiffynnwr Cymru, James Chester, ac mae’n debyg y gall symud o fewn diwrnodau.

Mae’r chwaraewr wedi cael trafferth am gyfleoedd gyda’r Hawthorns ers ymuno o Ddinas Hull am £8 miliwn haf diwethaf.

Er hynny, fe wnaeth argraff dda yn ystod ymgyrch Cymru yn Ewro 2016, gan lwyddo i wneud y nifer fwyaf o heriau ac ataliadau o unrhyw un o’r chwaraewyr yn y bencampwriaeth, gyda 36.

Bydd Villa yn chwarae yn erbyn Rotherham yn ei gêm gartref gyntaf tymor Pencampwriaeth Sky Bet ddydd Sadwrn ar ôl colli 1-0 i Sheffield Wednesday penwythnos diwethaf.