Gareth Bale yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon yn ystod Ewro 2016 (Llun: PA)
Mae seren Cymru a Real Madrid Gareth Bale ar restr fer gwobr UEFA am y Chwaraewr Gorau yn Ewrop ar gyfer tymor 2015/16.

Y tymor diwethaf, enillodd Gareth Bale deitl Cynghrair Pencampwyr UEFA a sgorio 19 o goliau La Liga i’w glwb. Nawr mae ei ymdrechion wedi cael eu cydnabod gan reithgor sy’n cynnwys newyddiadurwyr o 55 o wahanol wledydd.

Chwaraeodd Gareth Bale ran allweddol yn llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 hefyd wrth i’r tîm gyrraedd y rownd gynderfynol.

Bydd y rhestr fer o ddeg yn cael ei ostwng i dri enw erbyn 5 Awst, gyda’r enillydd yn cael ei enwi mewn seremoni arbennig ar 25 Awst.

Fodd bynnag, mae gan Gareth Bale gystadleuaeth am y wobr, gan gynnwys cyd-chwaraewyr tîm Real Madrid – Toni Kroos, Pepe a Cristiano Ronaldo. Yn ogystal, mae Lionel Messi o Barcelona, sydd wedi cipio’r tlws yn 2010/11 a 2014/15, yn y ras i ennill y wobr ddwy flynedd yn olynol.

Rhestr fer Chwaraewr Gorau Ewrop UEFA:

Gareth Bale (Real Madrid a Chymru)

Gianluigi Buffon (Juventus a’r Eidal)

Antoine Griezmann (Atlético Madrid a Ffrainc)

Toni Kroos (Real Madrid a’r Almaen)

Lionel Messi (Barcelona a’r Ariannin)

Thomas Müller (Bayern München a’r Almaen)

Manuel Neuer (Bayern München a’r Almaen)

Pepe (Real Madrid a Portiwgal)

Cristiano Ronaldo (Real Madrid a Portiwgal)

Luis Suárez (Barcelona ac Uruguay)