Hal Robson-Kanu (lLun:Joe Giddens/PA)
Cafodd y wobr am gôl orau cystadleuaeth Ewro 2016 ym marn gwylwyr Match of the Day ei roi i asgellwr Cymru, Hal Robson-Kanu.

Fe gyrhaeddodd y gôl y rhestr fer o’r tair gôl orau, cyn i sylwebwyr y rhaglen, Rio Ferdinand, Thierry Henry ac Alan Shearer ddewis un Hal Robson-Kanu fel y gorau o’r lleill.

Mae’r gôl hanesyddol yn erbyn Gwlad Belg bellach wedi’i chynnwys ar restr fer y bleidlais swyddogol ar wefan UEFA, lle mae modd pleidleisio amdani.

Cafodd y chwaraewr, sydd ddim yn chwarae i’r un clwb ar ôl gadael Reading, y bêl gan y canolwr, Aaron Ramsey, gyda’r disgwyl y bydd wedyn yn ei basio i’r amddiffynnydd, Neil Taylor.

Fodd bynnag, fe drodd ar ei union gan gicio’r bêl yn syth i’r gôl gan arwain y tîm at fuddugoliaeth yn erbyn yr ail dîm gorau yn y byd.