Wrth fwrw golwg nôl dros olygfeydd anhygoel yng Nghaerdydd ddydd Gwener, mae Owain Schiavone’n trafod pryderon y gallai poblogrwydd tîm pêl-droed Cymru droi’n bropaganda Prydeinig.

Roedd y golygfeydd ym maes awyr Caerdydd, ac yna ar strydoedd y brifddinas ddydd Gwener yn werth eu gweld. Ond mae yna beryg y gallai ymyrraeth y teulu brenhinol yn Lloegr droi pethau’n sur.

Heidiodd degau o filoedd – dros 200,000 yn ôl pob tebyg –  o bobol i strydoedd y brifddinas i groesawu tîm pêl-droed Cymru yn ôl o Ffrainc ac i’w llongyfarch ar eu llwyddiant aruthrol yn Ewro 2016.

Roedd y golygfeydd yn rhai na fyddai’r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru wedi breuddwydio eu gweld, ac roedd hyd yn oed y chwaraewyr i’w gweld yn rhyfeddu at y croeso ac yn mwynhau pob eiliad.

Er gwaethaf y gorfoledd dros y dyddiau diwethaf, mae’n amhosib peidio sylwi ar y cwmwl du bygythiol sydd wedi dechrau ymddangos dros y cyfan wrth i’r peiriant propaganda Prydeinig godi ei ben salw.

Frances ffôl

Teimlwyd cysgod y cwmwl gyntaf tuag at ddiwedd y dathliadau swyddogol yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i’r gyflwynwraig Frances Donovan gyfweld Chris Coleman a datgan yn groch ei bod am enwebu Coleman i’w wneud yn farchog gan frenhines Lloegr.

Do’n i ddim yn siŵr os oeddwn i’n credu fy nghlustiau ac, o’r olwg ar wyneb Coleman, roedd yntau’n amau ei glyw hefyd. Ro’n i wedi penderfynu mai’r holl gyffro oedd wedi effeithio arni’n cynnig y fath beth, cyn gweld wedyn ei bod wedi hi wedi trydar neges debyg rai oriau’n ddiweddarach.

Er gwaethaf ei ffamiliariti ymddangosiadol â’r chwaraewyr gyda’i ‘Ash’, ei ‘Rambo’ a’i ‘Joniesta’, mae’n amlwg nad ydy Frances yn adnabod y garfan yma o gwbl, na chyfrinach agored eu llwyddiant. Gorau Chwarae, Cyd Chwarae – neu Together Stronger os mynnwch chi. Pawb yn gyfartal, pawb yn bwysig i’r tîm a phawb yn wynebu popeth, y llwyddiant a’r siom, gyda’i gilydd fel un. Pam yn y byd fyddai Chris Coleman felly’n credu ei fod yn haeddu ‘anrhydedd’ cyn ei hyfforddwr, Osian Roberts, neu ei physio Sean Connelly?

Ar ddiwedd mis pan welson ni falchder cenedlaethol heb ei debyg diolch i’r tîm yma, beth oedd ar feddwl y gyflwynwraig yn honni y byddai cydnabyddiaeth gan frenhines cenedl arall yn golygu rhywbeth i Coleman ac i’r cefnogwyr oedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ac am foment i ddweud y fath beth – ar ôl i Coleman fod yn dyst i ddegau ar ddegau o filoedd o bobol o bob oedran yn ymgasglu i gydnabod llwyddiant ei dîm, dyma ni danseilio hynny trwy awgrymu y byddai cael ei wneud yn ‘Syr Chris Coleman’ yn fwy gwerthfawr iddo.

Mae’n amlwg nad ydy Frances wedi bod yn gwylio Cymru o’r eisteddle’n ddiweddar neu fe fyddai hi’n gyfarwydd â’r gân deyrnged i Gareth Bale – “Viva Gareth Bale, viva Gareth Bale, said he had a bad back, f**k the union jack”. Cyfeiriad wrth gwrs i anaf honedig Bale i’w gefn pan oedd tîm GB am iddo chwarae iddyn nhw yng Ngêmau Olympaidd Llundain, a theimladau y cefnogwyr yn glir.

Iro’r olwynion

Efallai na ddylen ni synnu i weld olwynion propaganda y sefydliad Prydeinig yn dechrau troi, ac yn anffodus erbyn dydd Sul roedden nhw’n troi’n gynt wrth i Wales Online awgrymu y gallai’r tîm gael gwahoddiad i dderbyniad brenhinol arbennig yn Clarence House.

Mae’n siomedig gweld ein ‘papur cenedlaethol’ yn cyfeirio at hyn fel “gwobr” i’r tîm yn y lle cyntaf, ac mae Golwg360 bellach hefyd wedi cael clywed bod y syniad yn cael ei ystyried o ddifri.

Dw i’n ofni mai rhan o bris llwyddiant ydy hyn, ac fe allai roi’r Gymdeithas Bêl-droed mewn man lletchwith iawn.

Mae barn y cefnogwyr ynglŷn â’r mater yn glir wrth i Twitter ffrwydro gyda gwrthwynebiad ymysg llawer o’r hardcôr, gan gynnwys The Barry Horns – y band pres sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn llwyddiant Cymru trwy godi canu ymysg cefnogwyr y cochion.

Y Barry Horns sydd wedi dechrau’r hashnod #noroyalreception sydd wedi ymddangos yn gyson dros y 24 awr diwethaf wrth i gannoedd o gefnogwyr ddatgan eu gwrthwynebiad.

Mae rhai cefnogwyr wedi dechrau deiseb yn gofyn i’r Gymdeithas Bêl-droed wrthod gwahoddiad o’r fath.

Petai’r gwahoddiad yn dod, a fyddai’r Gymdeithas Bêl-droed yn ddigon cryf i wrthod? Mae yna sawl rheswm dros wneud hynny.

Mi wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddatgan eu gwrthwynebiad clir i sefydlu ‘Tîm GB’ ar gyfer y Gêmau Olympaidd gan ofni tanseilio annibyniaeth tîm pêl-droed Cymru ac mae nifer ar Twitter i’w gweld yn dyfynnu ‘Cenedl Bêl-droed annibynnol / Independent Football Nation’. Byddai cydnabod gwahoddiad o’r fath gan deulu sy’n cynrychioli imperialaeth Prydeinig yn fwy na dim cystal â chydnabod mai rhan fach o gymdeithas bêl-droed Prydeinig ydy Cymru.

Mae ethos tîm Cymru wedi rhyfeddu pobol ledled y byd dros y mis diwethaf – ysbryd unigryw, dim ffws, dim hunanbwysigrwydd, dim fi fawr…dim ond criw o fois, gyda’u traed ar y ddaear, yn mwynhau eu cyfle. Maen nhw’n teimlo fel un, nid yn unig fel carfan a thîm hyfforddi, ond yn un gyda’r cefnogwyr hefyd – mae gan bawb eu rhan i chwarae. Unwaith eto, byddai te gyda’r elît yn Clarence House yn mynd yn gwbl groes i hynny.

Bu llawer o drafod ar y bandwagon, neu’r ‘lori lwyddiant’ (bathiad Ifor ap Glyn), a ddatblygodd diolch i lwyddiant y tîm. Pobol fel y teulu brenhinol a’r sefydliad Prydeinig ehangach ydy’r bandwagon go iawn sy’n ceisio manteisio ar lwyddiant y tîm ar gyfer eu dibenion propaganda eu hunain.

Ar ddechrau’r bencampwriaeth roedd y Tywysog William yn barod iawn i ddymuno’n dda i dîm pêl-droed Lloegr mewn fideo arbennig. Dim sôn am Gymru bryd hynny…

Byddai derbyn gwahoddiad fel hwn yn fuddugoliaeth arall i’r sefydliad Prydeinig i danseilio Cymreictod, a byddai hynny’n dorcalonnus ar ôl popeth a wnaed gan y tîm i ennyn balchder Cymreig hynod.

Byddai gwrthod yn siŵr o bechu’r sefydliad Prydeinig, ac yn golygu PR gwael ymysg y cyfryngau Prydeinig. Ond ydy hi’n werth sarhau a dieithrio carfan fawr o gefnogwyr sydd wedi bod yn ffyddlon i’r tîm cyhyd am ychydig o PR da?

Os ddaw’r gwahoddiad, dyma’r cwestiwn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Ydyn nhw’n ddigon cryf i wrthod ble mae eraill wedi methu?