Tîm pêl-droed Cymru yn cael eu croesawu nol i Gaerdydd wedi eu llwyddiant yn Ewro 2016
Yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016, mae Golwg360 ar ddeall y gallai’r garfan gael gwahoddiad i dderbyniad i’w llongyfarch gan y teulu brenhinol.

Ac ers i’r adroddiadau ledu, mae rhai o gefnogwyr y tîm wedi ymateb yn chwyrn gan ddechrau protest yn erbyn y syniad ar Twitter, dan yr hashnod #noroyalreception.

Un o’r dadleuon yw y dylai cefnogwyr gogledd Cymru gael y cyfle i longyfarch a chroesawu’r garfan yn gyntaf, am fod tîm Chris Coleman eisoes wedi bod ar daith ar fws agored drwy Gaerdydd nos Wener.

‘Dim rhan’ yn llwyddiant y tîm

Bellach, mae deiseb ar-lein wedi’i lansio yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i wrthod unrhyw wahoddiad am dderbyniad Brenhinol.

Dim ond deg llofnod sydd ar y ddeiseb hyd yn hyn, ac mae’n nodi: “Ni chwaraeodd y sefydliad hwn [Y Frenhiniaeth] unrhyw ran mewn creu llwyddiant y tîm, ac felly mae ei gymeradwyaeth yn ddiangen ac yn amhriodol, ac ni ddylent gael yr hawl i ddefnyddio’r digwyddiad ar gyfer eu dibenion cyhoeddusrwydd ei hun, yn groes i ddymuniadau’r llawer iawn o gefnogwyr.”

Ymysg y rhai sy’n gwrthwynebu’r syniad am dderbyniad brenhinol y mae band pres, The Barry Horns, sydd wedi dilyn y tîm ers blynyddoedd gan ddiddanu’r cefnogwyr â’u caneuon.

Gallwch ddarllen Blog Pêl-droed diweddaraf Owain Schiavone sy’n trafod y mater.