Portiwgal sydd wedi cipio cwpan pencampwriaeth Ewro 2016 wedi iddyn nhw guro Ffrainc ym Mharis neithiwr.

Ac mae’r diolch i’r ymosodwr Eder a ddaeth ar y cae fel eilydd gan sicrhau buddugoliaeth o 1 – 0 i’w wlad yn yr amser ychwanegol.

Mae Eder wedi’i ryddhau o glwb pêl-droed Abertawe wedi iddo fethu â sgorio unwaith mewn chwe mis i’r Elyrch.

Mae hyfforddwr tîm pêl-droed Portiwgal, Fernando Santos, wedi canmol cryfder ei garfan wrth sicrhau buddugoliaeth heb un o’i chwaraewyr mwyaf blaenllaw, sef Cristiano Ronaldo a ddioddefodd  anaf yn 25 munud cyntaf y gêm.

Gôl Kanu

Ar ddiwedd y gystadleuaeth, daeth clod i Hal Robson-Kanu wedi i’w gôl hanesyddol yn erbyn Gwlad Belg gael ei henwebu fel gôl y bencampwriaeth ar raglen Match of the Day y BBC yn dilyn rhestr fer gan y cyhoedd.