A fydd gan Gareth Bale achos i ddathlu nos Wener?
“Y ddraig ar y crys” yw prif ysgogiad Gareth Bale i lwyddo, meddai, wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i herio Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Ewro 2016 yn Ffrainc nos Wener (8 o’r gloch).

Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd Bale ei fod yn barod ar gyfer “gêm fwyaf Cymru ers hanner canrif”.

Dim ond Cymru o blith gwledydd Prydain sydd yn dal i fod yn y gystadleuaeth, ac fe fyddan nhw’n herio’r tîm oedd yn eu grŵp rhagbrofol er mwyn ceisio am le yn y rownd gyn-derfynol.

Yn ôl Bale, sydd wedi sgorio tair gôl mewn pedair gêm yn Ffrainc hyd yn hyn, hon yw ornest fwyaf Cymru ers iddyn nhw gael eu curo gan Frasil yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn 1958.

Mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Mercher, dywedodd Bale: “Ry’n ni’n gwybod am y gêm yn rownd yr wyth olaf yn ’58 felly ers hynny, hon yw’r gêm fwyaf yn y byd pêl-droed yng Nghymru yn sicr.

“Mae’n un ry’n ni’n edrych ymlaen ati ac yn ysu i gael dechrau. Ry’n ni am fwynhau’r achlysur, ei amgyffred ac ry’n ni’n gobeithio cyrraedd y rownd gyn-derfynol.”

Yn ôl Bale, mae’n “amser i ni ddisgleirio” gan mai Cymru yw’r unig un o wledydd Prydain sydd yn dal i fod yn y gystadleuaeth, ar ôl trechu Gogledd Iwerddon, ac ar ôl i Wlad yr Iâ guro Lloegr.

“Roedd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn gêm sâl iawn nad oedd yn addas ar ein cyfer ni ond mae chwarae’n sâl ac ennill yn dangos ysbryd a chymeriad y tîm ar hyn o bryd.

“Ry’n ni’n hapus iawn ac yn falch iawn, a byddwn ni’n hedfan baner Cymru’n uchel.”

Gwlad Belg

Wrth gyfeirio at y gwrthwynebwyr, dywedodd Bale mai nod Gwlad Belg fydd “ennill y gystadleuaeth”.

“Maen nhw’n dîm da, ry’n ni’n deall hynny. Eu nod nhw yw ennill yr Ewros ac maen nhw’n gweld pob tîm maen nhw’n chwarae yn eu herbyn fel cam tuag at y ffeinal ac ennill.”