Roy Hodgson (Llun: Mike Egerton/PA)
Cymru yw’r unig dîm cartref ar ôl ym mhencampwriaeth Ewro 2016 bellach – wedi i Loegr golli yn erbyn Gwlad yr Iâ neithiwr.

Ugain munud wedi i’r chwiban olaf gael ei chwythu, cyhoeddodd hyfforddwr tîm pêl-droed Lloegr ei fod yn ymddiswyddo wedi i Wlad yr Iâ eu trechu o 2 – 1.

Dywedodd Roy Hodgson, 68 oed, ei fod wedi’i siomi â’r canlyniad wrth i rai o sylwebwyr mwya’ pybyr y gamp ddisgrifio’r golled fel “yr embaras mwyaf i’r tîm cenedlaethol mewn mwy na hanner canrif.”

‘Ddim yn dderbyniol’

Mewn cynhadledd i’r wasg wedi’r gêm yn Nice, dywedodd Roy Hodgson, “dydyn ni ddim wedi datblygu mor bell â’r hyn oeddwn i’n disgwyl, ac yn amlwg dydy hynna ddim yn dderbyniol.

“Roedd fy nghytundeb yn dod i derfyn wedi’r Ewros beth bynnag, ac mae’n bryd i rywun arall gadw golwg ar ddatblygu’r criw o chwaraewyr ifanc, awyddus a hynod o dalentog hyn.”

Bellach, dim ond wyth tîm sydd ar ôl ym mhencampwriaeth Ewro 2016, ac fe fydd criw Chris Coleman yn herio Gwlad Belg yn Lille nos Wener am 8 o’r gloch, gyda chadarnhad bod Ashley Williams yn holliach.