Sam Vokes
Mae tîm pêl-droed Cymru bellach yn gwybod y byddan nhw’n herio Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Ewro 2016 yn Lille nos Wener (8 o’r gloch).

Gwnaeth Gwlad Belg guro Hwngari o 4-0 nos Sul.

Aethon nhw ar y blaen drwy gôl gan Toby Alderweireld yn y degfed munud ond llwyddodd Hwngari i ddal eu gafael ac am weddill yr hanner cyntaf ac amddiffyn am eu bywydau.

Ond roedd y Belgiaid yn rhy gryf yn yr ail hanner ac roedd y sgôr yn y pen draw yn adlewyrchiad annheg o’r rhan fwyaf o’r ornest wrth i ergyd ar ôl ergyd gael ei hanelu at gôl Hwngari.

Daeth ail gôl wedi 78 munud wrth i groesiad Eden Hazard ddarganfod yr eilydd Michy Batshuayi wrth iddo rwydo gyda’i gyffyrddiad cyntaf.

94 eiliad gymerodd hi i Batshuayi sgorio’i ail gôl ac roedd y gêm i bob pwrpas ar ben erbyn hynny.

Daeth y bedwaredd gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau, wrth i Yannick Carrasco rwydo.

Cyn gwybod pwy fyddai Cymru’n eu hwynebu yn rownd yr wyth olaf, dywedodd ymosodwr Cymru, Sam Vokes: “Maen nhw i gyd yn gemau mawr a’r un nesaf yw rownd yr wyth olaf. Dydych chi byth yn gwybod [beth all ddigwydd] os cewch chi ganlyniad yno.

“Mae pob gêm yn wahanol, mae’n anodd mynd i mewn i bob gêm gyda’r un feddylfryd.

“Ond rhaid i chi barhau i weithio am y canlyniadau, pa un a ydyn ni’n chwarae’n 100% fel y gwnaethon ni yn erbyn Rwsia neu yn erbyn Gogledd Iwerddon lle’r oedden ni ymhellach ohoni.”

Ashley Williams

Ar drothwy rownd yr wyth olaf, mae amheuon ynghylch ffitrwydd capten Cymru, Ashley Williams ar ôl iddo gael anaf i’w ysgwydd yn erbyn Gogledd Iwerddon pan darodd i mewn i Jonny Williams.

Mae disgwyl i Williams gael sgan ddydd Llun cyn y bydd cyhoeddiad ynghylch ei gyflwr.