Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd yna le i gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru wylio gemau Ewro 2016 ar strydoedd y brifddinas.

Fe fydd y manylion llawn ynglyn â sut a lle y bydd cefnogwyr Cymru’n gallu gwylio’r tîm cenedlaethol yn eu pencampwriaeth ryngwladol gynta’ am 58 mlynedd, ar gael yr wythnos nesa’. Fe fydd pencampwriaeth Ewro 2016 yn agor nos Wener, Mehefin 10, ac yn para am fis cyfan.

Mae gemau grwp Cymru yn cynnwys gornestau yn erbyn Slofacia ar Fehefin 11; Lloegr ar Fehefin 16; a Rwsia ar Fehefin 20.

“Mae Cyngor Dinas Caerdydd, ynghyd â’i bartneriaid, yn falch o gyhoeddi y bydd gan gefnogwyr y cyfle i wylio gemau Pencampwriaeth Ewropeaidd Cymru ar sgrin fawr yng nghanol y ddinas,” meddai’r awdurdod mewn datganiad.”