Mae Ryanair wedi canslo 75 o deithiau heddiw wrth i reolwyr traffig awyr Ffrainc fynd ar streic, meddai’r cwmni awyrennau.

Mae disgwyl i’r streic barhau i darfu ar deithiau dros ofod awyr Ffrainc wrth i ragor o streiciau gael eu trefnu ar gyfer Dydd Gwener, Sadwrn a Sul.

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr pêl-droed o’r DU deithio ar draws y Sianel yn ystod y dyddiau nesaf i gefnogi timau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn Ewro 2016.

Yn ôl Ryanair dyma’r nawfed streic gan reolwyr traffig awyr Ffrainc yn ystod y 10 wythnos ddiwethaf.

Mae Ryanair yn annog pobl i arwyddo deiseb sy’n galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno mesurau er mwyn lleddfu effaith streiciau gan reolwyr traffig awyr Ffrainc.

Byddai’r mesurau yn cynnwys sicrhau bod undebau yn cymryd rhan mewn trafodaethau i geisio datrys yr anghydfod a bod teithiau dros Ffrainc yn cael eu diogelu.