Tom Lawrence (Llun: David Davies/PA)
Mae Tom Lawrence wedi cadarnhau na fydd yn chwarae dros Gymru yn Ewro 2016 fis nesaf ar ôl anafu cymalau yn ei bigwrn.

Fe drydarodd yr asgellwr yn hwyr nos Lun ei fod yn siomedig tu hwnt na fydd yn medru cael ei enwi yn y garfan ar gyfer Ffrainc, er ei fod yn gobeithio mynd allan yno rywfaint i gefnogi’r chwaraewyr.

Bydd rheolwr y tîm Chris Coleman yn enwi’i garfan terfynol o 23 chwaraewr brynhawn ddydd Mawrth, a’r penderfyniad mawr sydd ganddo i’w wneud yw honno ynglŷn â ffitrwydd Joe Ledley.

Mae disgwyl i’r chwaraewr canol cae gael ei enwi ar ôl profi bod siawns ganddo o wella mewn pryd ar gyfer y gystadleuaeth, er iddo dorri asgwrn yn ei goes dim ond ychydig wythnosau yn ôl.

Ond fe fydd chwaraewyr fel Adam Matthews, Emyr Huws, David Edwards, David Vaughan, David Cotterill, George Williams a Wes Burns yn aros  i glywed a fyddan nhw’n cael eu cynnwys yn y grŵp terfynol fydd yn teithio i’r twrnament.

Ac mae’r sylwebydd Nic Parry wedi dweud wrth golwg360 nad yw’n credu y dylai Coleman fynd â Ledley os oes amheuon o hyd dros ei ffitrwydd.

Gallwch wrando ar y sgwrs lawn yn trafod dewis y garfan heddiw isod: