Aaron Ramsey, yng ngwersyll Cymru yn Vale do Lobo, Algarve, Portiwgal (llun: Joe Giddens/PA)
Mae Aaron Ramsey wedi dweud bod Cymru’n hyderus y gallan nhw fanteisio ar wendidau yn nhîm Lloegr a’u trechu nhw pan fydd y ddwy wlad yn wynebu’i gilydd yn Ewro 2016 mewn tair wythnos.

Ac fe ychwanegodd y chwaraewr canol cae yn ddireidus bod sawl un o’r garfan wedi gobeithio cael ‘un o’r timau mawr’, yn hytrach na’r Saeson, pan gafodd grwpiau’r gystadleuaeth eu dewis.

Dyw’r crysau cochion heb drechu’r hen elyn ers 1984, pan rwydodd Mark Hughes mewn buddugoliaeth o 1-0 ar y Cae Ras.

Ond fe fydd yn rhaid i dîm Chris Coleman hefyd geisio cael y gorau o Slofacia a Rwsia os ydyn nhw am ddianc o’u grŵp yn yr Ewros, sydd yn dechrau mewn ychydig dros bythefnos.

‘Tynnu coes’

Mae Ramsey ei hun yn dweud ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at herio Lloegr yn eu hail gêm grŵp yn Lens ar 16 Mehefin – ond yn cyfaddef nad oedd yr un peth yn wir am rai o’i gyd-Gymry.

“Roeddwn i’n gyffrous iawn pan gafodd y grwpiau eu dewis,” meddai’r gŵr o Gaerffili.

“Ond dw i’n gwybod fod rhai o’r bois yn siomedig achos doedden nhw ddim eisiau’r gêm, roedden nhw eisiau un o’r timau eraill, un o’r timau mawr.

“Ond dw i’n chwarae gyda rhai o fechgyn Lloegr bob wythnos, felly mae tipyn o dynnu coes wedi bod.”

Chwilio am wendidau

Er bod gan Loegr nifer o ymosodwyr disglair sydd wedi serennu dros eu clybiau eleni mae Ramsey’n credu y bydd seren tîm Cymru, Gareth Bale, yn medru creu’r un fath o broblemau i amddiffyn Lloegr.

“Mae gan bob tîm wendidau ac fe fyddwn ni’n edrych i fanteisio arnyn nhw,” meddai’r chwaraewr 25 oed.

“Mae gan Loegr lot o chwaraewyr da, chwaraewyr ifanc hefyd sydd wedi cael tymhorau da dros eu clybiau. Maen nhw’n gyflym, maen nhw’n ymosod ac mae ganddyn nhw chwaraewyr all sgorio.

“Fe fydd yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hynny, ond fe allwn ni fanteisio ar eu gwendidau nhw hefyd, sgorio yn eu herbyn a’u cadw nhw allan gobeithio.”