Joe Ledley
Mae Chris Coleman wedi dweud bod yr ‘arwyddion yn rai da’ dros ffitrwydd Joe Ledley wrth i’r chwaraewr canol cae geisio gwella mewn pryd ar gyfer Ewro 2016.

Bydd rheolwr Cymru’n enwi’i garfan derfynol o 23 chwaraewr ar gyfer y gystadleuaeth mewn llai nag wythnos.

Dyw hynny ddim yn gadael llawer o amser i Ledley, a graciodd asgwrn yn ei goes ychydig wythnosau yn ôl, brofi y bydd yn ffit i gymryd rhan yn y gemau.

Ond fe ryddhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru luniau ddydd Mawrth yn dangos Ledley’n rhedeg ac yn ymarfer yng ngwersyll y tîm ym Mhortiwgal, gan godi gobeithion y bydd yn holliach mewn pryd.

Un penderfyniad

Fe gyfaddefodd Coleman fodd bynnag na fydd o’n dewis Ledley yn ei garfan os nad oes disgwyl iddo fod yn ffit nes rowndiau hwyrach y gystadleuaeth.

“Os mai Sbaen neu’r Almaen ydych chi a’ch bod chi’n arfer cyrraedd y rownd gynderfynol neu’r ffeinal, fe allwch chi feddwl felly,” meddai rheolwr Cymru, sydd wedi cyfaddef ei fod mwy neu lai’n gwybod y 23 mae e am ddewis.

“Mae’n rhaid i ni feddwl ‘sut ydyn ni am ddianc o’r grŵp?’ a gallwn ni ddim meddwl ymhellach na hynny. Mae gen i ddyletswydd i roi carfan o chwaraewyr at ei gilydd fydd yn rhoi’r cyfle gorau i ni ddod allan o’r grŵp yna.

“Mae’n siomedig i Joe ein bod ni yn y safle yma achos mae e wedi gwneud cymaint ag unrhyw un i’n helpu ni i gyrraedd. Mae e’n bwysig i ni ar y cae ac oddi arno fe, mae’n fachan gwych.

“Dyma’r penderfyniad mwyaf y bydd yn rhaid i mi wneud yn y 23.”