Gareth Bale Llun: UEFA
Mae Gareth Bale wedi mynnu mai ennill Ewro 2016 fydd y nod i Gymru’r haf hwn wrth iddo gyfaddef bod y tîm am geisio bod mor uchelgeisiol â phosib.

Eleni fydd y tro cyntaf i’r crysau cochion chwarae mewn rowndiau terfynol twrnament ryngwladol ers 58 mlynedd, ac mae’r bwcis yn amau mai cael a chael fydd hi iddyn nhw ddianc o’r grŵp.

Ond dyw hynny ddim yn poeni Bale, seren Real Madrid a sgoriodd saith o’r goliau a sicrhaodd le Cymru yn yr Ewros.

“Ein huchelgais ni, ac fe fydd rhai pobol yn dweud ei fod yn wallgof, ond mae’n rhaid i chi feddwl eich bod chi am geisio’i ennill e,” meddai’r ymosodwr.

‘Wedi cyffroi’

Dyw Bale ddim wedi ymuno â charfan Cymru yn eu gwersyll ymarfer ym Mhortiwgal yr wythnos hon gan fod Real Madrid yn chwarae yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ddydd Sadwrn.

Ond fe gyfaddefodd ei fod eisoes “wedi cyffroi’n lân” at gael mynd i Ffrainc gyda’r tîm cenedlaethol, a’i fod yn hyderus y gallai bechgyn Chris Coleman drechu unrhyw dîm.

“Does dim pwynt mynd yno a meddwl y byddwch chi allan yn syth, achos dyna beth fydd yn digwydd wedyn,” meddai Bale wrth siarad ag adidas.

“Rydyn ni’n mynd i mewn i bob gêm yn ceisio curo pob tîm, felly os gymrwn ni bethau un gêm ar y tro a churo pob tîm fe wnawn ni ennill.”