Y garfan yn gadael Maes Awyr Caerdydd y bore 'ma (llun:CBDC)
Mae carfan Cymru wedi teithio i Bortiwgal heddiw ar gyfer eu gwersyll ymarfer olaf cyn i’r rheolwr Chris Coleman ddewis y 23 terfynol fydd yn mynd i Ewro 2016.

Cafodd y chwaraewyr newyddion da ddoe wrth i Coleman gadarnhau ei fod wedi arwyddo estyniad i’w gytundeb sydd yn golygu y bydd yn aros yn ei swydd ar gyfer yr ymgyrch nesaf i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Yn y cyfamser mae’r tîm wrthi’n paratoi ar gyfer yr Ewros, sydd yn dechrau ymhen pythefnos a hanner, ble byddan nhw’n herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp.

Fe fyddan nhw hefyd yn chwarae un gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ar 5 Mehefin cyn iddyn nhw deithio i’w gwersyll yn Dinard, Llydaw, ar gyfer y gystadleuaeth.

Aros i glywed

Mae Coleman eisoes wedi cadarnhau fod y chwaraewr canol cae, Joe Ledley, yn teithio gyda’r garfan i Bortiwgal er gwaethaf ei anaf.

Fe graciodd Ledley asgwrn yn ei goes ychydig wythnosau yn ôl ac mae’n wynebu ras yn erbyn y cloc i brofi y bydd yn gwella mewn pryd erbyn i garfan derfynol Cymru o 23 chwaraewr gael ei henwi ar 31 Mai.

Dyw Gareth Bale ddim wedi teithio gyda’r garfan i Bortiwgal fodd bynnag, a hynny am fod Real Madrid yn herio Atletico Madrid yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ddydd Sadwrn.

Fel arall does dim amheuon ynglŷn â ffitrwydd unrhyw un o’r chwaraewyr eraill ar hyn o bryd, a hynny ar drothwy ymddangosiad cyntaf Cymru mewn rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol ers 58 mlynedd.