Bydd y llywydd newydd yn olynu Michel Platini, uchod (llun: Niall Carson/PA)
Mae disgwyl i UEFA, y corff sy’n llywodraethu pêl-droed yn Ewrop, gynnal etholiad ym mis Medi i ddewis olynydd i’r llywydd Michel Platini.

Cafodd Platini ei wahardd ym mis Hydref fel rhan o ymchwiliad i lygredd am iddo dderbyn taliad o $2miliwn a gafodd ei gymeradwyo gan gyn-lywydd FIFA, Sepp Blatter.

Cafodd gwaharddiad Platini ei leihau i bedair blynedd y mis yma gan y Llys Cyflafareddu Chwaraeon.

Mae disgwyl i’r bleidlais gael ei chynnal yn Athen ar Fedi 13-14, a’r llywydd newydd yn cwblhau tymor presennol Platini sy’n para tan fis Mawrth 2019.

Ymhlith yr enwau sydd wedi cael eu crybwyll mae is-lywyddion UEFA, Angel Maria Villar o Sbaen a Michael van Praag o’r Iseldiroedd, ynghyd â llywydd ffederasiwn Slofenia, Aleksander Ceferin.