Mae Tom Bradshaw wedi cyfaddef y byddai’n well ganddo fethu gwersyll ymarfer Cymru ym Mhortiwgal os yw’n golygu bod gan ei glwb dal siawns o ddyrchafiad.

Cafodd yr ymosodwr 23 oed ei enwi yng ngharfan estynedig Cymru o 29 chwaraewr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc fis nesaf.

Ond mae ei glwb, Walsall, hefyd yn cystadlu yng ngemau ail-gyfle Cynghrair Un yr wythnos hon ac os ydyn nhw’n trechu Barnsley dros ddau gymal fe fyddan nhw’n cyrraedd y ffeinal yn Wembley ar 29 Mai.

Byddai hynny’n golygu na fyddai Bradshaw yn gallu teithio â charfan Cymru i Bortiwgal, ac felly’n methu cyfle i greu argraff ar Chris Coleman a’i dîm rheoli cyn i’r garfan derfynol o 23 gael ei chyhoeddi.

Croesi bysedd

Mynnodd cyn-ymosodwr Aberystwyth fodd bynnag y byddai chwarae’n dda dros Walsall yn y gemau ail-gyfle yn rhoi cyfle llawn cystal iddo o gael ei ddewis.

“Roeddwn i wrth fy modd pan glywais fy mod i yng ngharfan Cymru, ond gobeithio y byddai yn Llundain yn hytrach na Phortiwgal,” meddai’r blaenwr sydd wedi sgorio 20 gôl y tymor yma.

“Mae Cymru wedi bod yn grêt. Fe ddywedon nhw wrtha i na fydd hynny’n cyfri’ yn fy erbyn i. Mae’r gemau yma’n gyfle digon da i greu argraff.

“Gobeithio y galla i wneud yn dda, sgorio ychydig o goliau ac y bydd Chris Coleman yn fy ystyried i ar gyfer y garfan o 23.”

‘Ewch â fo’

Dim ond un cap y mae Tom Bradshaw wedi ennill hyd yn hyn, gan ddod ymlaen fel eilydd am ugain munud yn y gêm gyfeillgar ddiwethaf yn erbyn Yr Wcráin.

Ond ar ôl canfod cefn y rhwyd yn gyson i Walsall y tymor yma mae llawer o gefnogwyr Cymru wedi galw ar Chris Coleman i’w ddewis, a hynny ar draul chwaraewyr fel Simon Church neu Tom Lawrence sydd heb fod yn sgorio mor aml.

Cafodd y sentiment yna ei ategu gan reolwr Tom Bradshaw yn Walsall, Jon Whitney.

“Bydden nhw’n ddwl i beidio â’i ddewis i fynd i Ffrainc achos mae Tom yn gwella wrth iddo chwarae gyda chwaraewyr gwell – mae’n parhau i godi’r bar,” meddai’r rheolwr.