Cofeb Hillsborough Llun: PA
Mae’r cyflwynydd teledu Eamonn Holmes wedi ymddiheuro am gysylltu ymddygiad cefnogwyr West Ham nos Fawrth gyda thrychineb Hillsborough.

Cyn y gêm olaf yn Stadiwm Boleyn nos Fawrth, roedd cefnogwyr West Ham wedi bod yn taflu cerrig at fws tîm Manchester United, y tîm y mae Holmes yn ei gefnogi.

Ar raglen foreol Sunrise, dywedodd ei gyd-gyflwynydd Jacquie Beltrao fod y papurau newydd yn frith o straeon am ymddygiad y cefnogwyr “mewn adlais o’r wythdegau”.

Ychwanegodd Holmes nad dyma’r “ddelwedd y mae Uwch Gynghrair Lloegr am ei chreu o gwmpas y byd”.

Ychwanegodd: “Roedd yn freuddwyd iddyn nhw ddydd Sul pan welson ni’r golygfeydd yn Stadiwm King Power yng Nghaerlŷr, ond mae hyn nawr yn mynd yn ôl i’r saithdegau a’r wythdegau, ac i bopeth roeddech chi’n ei weld oedd yn wael am Hillsborough, er enghraifft.”

Ar ddiwedd ail gwest i farwolaethau 96 o gefnogwyr Lerpwl yn Hillsborough yn 1989, daeth y rheithgor i’r penderfyniad – yn groes i reithfarn y cwest cyntaf – nad oedd y cefnogwyr ar fai am y trychineb, gan feirniadu’r gwasanaethau brys, y cyngor sir lleol a’r stadiwm.

‘Ffiaidd’ 

Yn dilyn ei sylwadau, cafodd y cyflwynydd ei feirniadu ar wefannau cymdeithasol a chafodd y rheiny a wnaeth sylwadau eu beirniadu gan Holmes.

“Dwi’n ymwybodol fod rhywun yn trio fy nefnyddio i i greu trafferth ynghylch trychineb Hillsborough. Mor isel, mor ffiaidd.”

Ond mewn datganiad yn ddiweddarach, dywedodd Holmes: “Yn amlwg does dim cymhariaeth rhwng Hillsborough a’r golygfeydd welson ni yn West Ham neithiwr. Rwy’n ymddiheuro os oedd unrhyw un yn meddwl fy mod i’n gwneud y cysylltiad hwnnw.”