Munster 31–15 Scarlets

Fydd dim un tîm o Gymru yn rownd gynderfynol y Guinness Pro12 y tymor hwn wedi i’r Scarlets golli yn erbyn Munster ar Barc Thomond brynhawn Sadwrn.

Roedd Bois y Sosban angen pwynt yn fwy nag Ulster ar y diwrnod olaf i orffen yn y pedwar uchaf, ond nid felly y bu wrth Munster drechu’r Cymry yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Scarlets yn dda a chafodd eu pwyso cynnar ei wobrwyo wedi deg munud gyda chic gosb o droed Steve Shingler.

I Munster yn erbyn llif y chwarae y daeth y cais cyntaf serch hynny, a chais da oedd o hefyd. Gwrthymosododd Francis Saili o’i linell gais ei hunan, yn cicio i lwybr Keith Earls cyn derbyn y bêl yn ôl gan yr asgellwr i orffen y symudiad.

Bu bron i’r Scarlets daro nôl gyda chais ei hunain yn fuan wedi hynny ond er i Steff Evans dirio yn y gornel roedd pas Hadleigh Parkes iddo ymlaen. Bu rhaid i Fois y Sosban yn hytrach fodloni ar dri phwynt o droed Shingler i gau’r bwlch i bwynt.

Daeth ail gais i’r Gwyddelod wedi hynny, Rob Evans yn ildio cic rydd gwbl ddiangen a’r pwysau canlynol yn arwain at sgôr i Rory Scannell.

Rhoddodd trosiad Holland y tîm cartref wyth pwynt ar y blaen ond dim ond dau bwynt oedd ynddi ar yr egwyl diolch i ddwy gic gosb arall gan Shingler, 14-12 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Roedd Munster dipyn gwell wedi’r egwyl ond bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r hanner am y sgôr cyntaf.

Cais i’r tîm cartref a oedd hwnnw, Ronan O’Mahony yn rhedeg o’r llinell hanner wedi i’r Scarlets golli’r meddiant yn hanner y Gwyddelod. Methodd Holland y trosiad ond roedd Munster saith pwynt ar y blaen gyda chwarter y gêm ar ôl.

Rhoddodd pumed cic gosb Shingler lygedyn o obaith i’r Scarlets wedi hynny ond gorffennodd y Gwyddelod yn gryf gyda dau gais hwyr.

Defnyddiodd CJ Stander ei holl gryfder i hyrddio drosodd am y pedwerydd cyn i ail gais Scannell gornoi’r cyfan a diogelu’r fuddugoliaeth ym munud olaf y gêm.

31-15 y sgôr terfynol felly, canlyniad sydd yn sicrhau lle Muntser yn chwech uchaf y Pro12, ond ar ôl treulio rhan helaeth o’r tymor tua’r brig mae’r Scarlets yn gorffen yn bumed.

.

Munster

Ceisiau: Francis Saili 14’, Rory Scannell 26’, 79’, Ronan O’Mahony 60’, CJ Stander 69’

Trosiadau: Johnny Holland 15’, 27’, 80’

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Steve Shingler 10’, 22’, 29’, 38’, 65’