Barrow 2–0 Wrecsam                                                                        

Daeth tymor siomedig Wrecsam i ben wrth iddynt golli oddi cartref yn erbyn Barrow ar Stryd Holker nos Sadwrn.

Sgoriodd Andy Cook ddwy waith o bobtu’r egwyl wrth i’r Dreigiau golli am yr ail dro ar bymtheg y tymor hwn yn y Gynghrair Genedlaethol.

Agorodd Cook y sgorio ddau funud cyn yr egwyl cyn dyblu mantais y tîm cartref wedi i Simon Grand benio’r bêl i lwybr hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn gorffen y tymor yn wythfed yn y tabl, 11 pwynt o’r safleoedd ail gyfle a 32 pwynt y tu ôl i’r pencampwyr, Cheltenham.

.

Barrow

Tîm: Dicon, Lacey, Parry, Abbott, Wilmer-Anderton, Grand, Haworth (Walker 66’), Harvey, Williams, Tomlinson, Cook

Goliau: Cook 43’, 77’

Cardiau Melyn: Tomlinson 84’, Harvey 90’

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Vidal (Jackson 59’), Smith, Newton, Hudson (York 59’), Carrington, Fyfield, Heslop (Moke 68’), Evans, Fowler, Jennings

Cerdyn Melyn: Moke 90’

.

Torf: 1,728