Casnewydd 0–1 Notts County                                                       

Mae Casnewydd bellach heb ennill mewn deg gêm yn yr Ail Adran wedi iddynt golli gartref yn erbyn Notts County ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Mae’r Alltuidion yn ddiogel ond parhau mae’r diweddglo siomedig i’w tymor wrth i gôl hanner cyntaf Genaro Snidjers olygu eu bod yn colli gêm gartref olaf y tymor.

Manteisiodd Snidjers ar gamgymeriad Joe Day yn y gôl i roi’r ymwelwyr ar y blaen chwe munud cyn yr egwyl.

Fe wnaeth Day yn iawn am ei gamgymeriad yn yr ail hanner wrth atal Jon Stead a Filip Valencic rhag dyblu’r fantais.

Cafodd Casnewydd gyfle i unioni yn y pen arall hefyd ond cafodd ymdrechion Scott Boden a Medy Elito eu harbed gan gyn gôl-geidwad Gogledd Iwerddon, Roy Carrol.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn yr ail safle ar hugain yn nhabl yr ail Adran gydag un gêm ar ôl.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Parselle, Donacien, Partridge (John-Lewis 72’), Barrow, O’Sullivan, Owen-Evans (Byrne 58’), Elito, Holmes, Coulibaly, Morgan (Boden 65’)

Cerdyn Melyn: Morgan 33’

.

Notts County

Tîm: Carrol, Adams, Edwards, Hollis, Hewitt, Smith, Atkinson, Burke (Audel 77’), Valencic, Sniijders, Stead

Gôl: Snidjers 39’

.

Torf: 4,903