Dyfed Parry
Dyfed Parry sy’n adlewyrchu ar ddyfarniad hanesyddol yr wythnos hon…

Wedi 27 mlynedd o frwydro dros gyfiawnder, fe groesawyd y penderfyniad nad oedd bai ar gefnogwyr pêl-droed Lerpwl am drychineb Hillsborough.

Er mawr ryddhad i deuluoedd a ffrindiau’r meirw, fe gytunodd y rheithgor yn Warrington mai cyfres o benderfyniadau esgeulus gan yr Heddlu a’r gwasanaethau brys a arweiniodd at un o ddyddiau mwyaf tywyll pêl-droed yng ngwledydd Prydain erioed.

Ar 15 Ebrill 1989, yn ystod rownd gynderfynol Cwpan yr FA, cafodd 96 o gefnogwyr y Cochion eu lladd yn anghyfreithlon wrth gefnogi eu tîm yn erbyn Nottingham Forest.

Plant ac oedolion oedd yn gobeithio bod yn dystion i fuddugoliaeth i’w tîm ar brynhawn braf, yn colli eu bywydau.

Anodd hyd heddiw yw credu fod y fath drychineb erbyn hyn yn rhan o hanes trist y gêm – gêm sydd yn gysylltiedig ag uno pobol y byd mewn cyfeillgarwch a hapusrwydd.

Dim ond gêm


Cafodd 96 o gefnogwyr eu lladd yn y drychineb (llun: PA)
Fel llawer un arall, dw i’n cofio lle’r oeddwn i ar y prynhawn trychinebus – ar gae chwarae Llanfairpwll yn gwylio tîm pêl-droed y pentref hefo fy ffrindiau, yn cicio pêl ac yn gwrando ar y gêm ar y radio.

Anodd hyd heddiw ydi deall pam nad oedd trefniadau cadarn mewn lle i fugeilio’r dorf wrth iddynt agosáu at fynediad Leppings Lane.

Yn ystod un o gyfnodau mwyaf tywyll y ddinas unedig, fe drefnodd rheolwr Lerpwl Kenny Dalglish i’w garfan gael eu cynrychioli yn angladd pob un o’r meirw, ac mae o erbyn hyn dal yn gysylltiedig â’r clwb ac yn uchel iawn ei barch gan drigolion y ddinas.

Anffodus yw bod rheolwr mwyaf llwyddiannus y Cochion erioed, y diweddar Bill Shankly, yn cael ei gydnabod am y dywediad anffodus “some people believe football is a matter of life and death, I am very disappointed with that attitude. I can assure you it is much, much more important than that”.

Dw i’n siŵr y byddai wedi newid ei feddwl erbyn hyn.

Dim ond gêm.