Chris Coleman yn dathlu (Llun: Tsafrir Abayov/PA)
Mae cyfarwyddwr ffilm o Ferthyr Tudful yn gobeithio y gall Chris Coleman a thîm pêl-droed Cymru gael eu hysbrydoli gan ei ffilm am lwyddiant y rheolwr pêl-droed Brian Clough.

Clough oedd rheolwr Nottingham Forest pan godon nhw Gwpan Ewrop ddau dymor yn olynol yn 1979 a 1980.

Mae ei bartneriaeth e â’i gynorthwyydd Peter Taylor yn cael ei hystyried yn un o’r partneriaethau gorau yn hanes pêl-droed yn Lloegr.

Aeth Jonny Owen, cyfarwyddwr ‘I Believe in Miracles’ sy’n byw yn Nottingham, ati i gofnodi’r hanes ar ffilm ac mi gafodd ei rhyddhau fis Hydref y llynedd.

Cafodd mwy o gopïau o’r ffilm eu gwerthu na’r disgwyl, ac mae’n cael ei hystyried yn un o’r ffilmiau pêl-droed gorau erioed.

Yn ôl WalesOnline, mae Owen wedi mynd ati i anfon copi o’r ffilm at garfan Cymru ar drothwy Ewro 2016.

Bydd y ffilm hefyd yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ddogfen Ryngwladol Cymru yn y Coed Duon ar Fai 12.

Bydd ymgyrch Cymru yn Ffrainc yn dechrau ar Fehefin 10, wrth iddyn nhw herio Slofacia.

Byddan nhw’n wynebu Lloegr chwe diwrnod yn ddiweddarach, cyn chwarae eu trydedd gêm yn y grŵp yn erbyn Rwsia ar Fehefin 20.