Dydy dyfodol rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin ddim wedi cael ei benderfynu eto
Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Francesco Guidolin wedi galw ar ei chwaraewyr i chwarae “heb ofn” ddydd Sul.

Bydd Caerlŷr gam yn nes at ennill tlws Uwch Gynghrair Lloegr os ydyn nhw’n llwyddo i guro Abertawe yn stadiwm King Power (4.15yp).

Ar hyn o bryd, mantais o bum pwynt sydd gan Gaerlŷr dros Spurs, ac fe fydd rhaid i Abertawe anghofio am y golled yn erbyn Newcastle y penwythnos diwethaf os ydyn nhw am orffen y tymor mewn modd positif dros yr wythnosau i ddod.

Mae Abertawe’n gydradd bedwerydd ar ddeg gyda West Brom yn y tabl ac mae ganddyn nhw 40 o bwyntiau.

Mae gan Everton, Watford a Bournemouth, sy’n gydradd unfed ar ddeg, 41 o bwyntiau, tra bod Crystal Palaceun safle islaw Abertawe ac mae ganddyn nhw 39 o bwyntiau.

Meddai’r Eidalwr Guidolin: “Mae gyda ni gemau anodd i orffen y tymor oherwydd rydyn ni’n herio timau sydd â thargedau pwysig.

“Rhaid i ni wynebu Caerlŷr, Lerpwl, West Ham a Man City – clybiau mawr sydd â thipyn i chwarae amdano o hyd.

“Ond rhaid i ni chwarae heb ofn, gyda dewrder a chymeriad. Mae dydd Sul yn gêm bwysig iawn i ni hefyd.

“Dydy ein tymor ddim ar ben eto ac mae angen pwyntiau arnon ni.”

Flwyddyn yn ôl, y tîm cartref aeth â’r pwyntiau wrth i Leonardo Ulloa a’r Cymro Andy King ddarganfod cefn y rhwyd i sicrhau buddugoliaeth o 2-0 i’r Saeson.

O fewn y flwyddyn honno, mae Caerlŷr wedi symud o waelod yr Uwch Gynghrair, gan osgoi disgyn, i frig y tabl.

Ychwanegodd Guidolin yr hoffai weld Caerlŷr a’i gydwladwr, y rheolwr Claudio Ranieri yn ennill y tlws.

Dyfodol Guidolin

Yn y cyfamser, cadarnhaodd Guidolin fod y trafodaethau ynghylch cytundeb newydd yn parhau.

Dywedodd fod y Cadeirydd Huw Jenkins wedi dweud wrtho y byddai ei ddyfodol yn cael ei benderfynu ymhen pythefnos neu dair wythnos.

Mae adroddiadau’r wasg yn awgrymu bod y cyn-reolwr Brendan Rodgers yn barod i ddychwelyd i Stadiwm Liberty pe na bai Guidolin yn cael aros.