Ychydig dros ddeufis sydd i fynd bellach nes y bydd tîm Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn Ewro 2016 (llun: CBDC)
Mae Cymru wedi disgyn saith safle i 24ain yn rhestr detholion diweddaraf FIFA a gafodd ei chyhoeddi ddydd Iau.

Daw hynny yn sgil canlyniad cyfartal yn erbyn Gogledd Iwerddon a cholled yn erbyn yr Wcráin yn eu gemau cyfeillgar diweddaf ym mis Mawrth, wrth i’r tîm baratoi ar gyfer Ewro 2016.

Mae Lloegr, fydd yn yr un grŵp â Chymru yn y gystadleuaeth yn Ffrainc, wedi disgyn un safle i 10fed.

Mae gwrthwynebwyr eraill Cymru yn eu grŵp Ewro 2016 ym mis Mehefin, Rwsia a Slofacia, yn y 27ain a’r 32ain safle.

Cododd Gogledd Iwerddon ddau safle i 26ain, disgynnodd Gweriniaeth Iwerddon ddau safle i 31ain, ac mae’r Alban i fyny pum safle i rif 40.

Yr Ariannin sydd ar y brig, tra bod Gwlad Belg yn cwympo i’r ail safle.