Mae’r seren pêl-droed Johan Cruyff, sy’n cael ei gyfrif ymhlith chwaraewyr gorau’r gêm, wedi marw yn 68 oed.

Mae’n debyg ei fod wedi dioddef o ganser a bu farw’n heddychlon yn Barcelona o amgylch ei deulu.

Bu’n chwarae i’r Iseldiroedd ar y llwyfan rhyngwladol, ac yn y 1970au ored yn un o eiconau mwyaf timau Ajax a Barcelona.

“Ar 24 Mawrth 2016, bu farw Johan Cruyff (68) yn heddychlon yn Barcelona, o amgylch ei deulu ar ôl brwydr hir â chanser,” meddai datganiad ar ei wefan.

“Gyda thristwch mawr, gofynnwn i chi barchu preifatrwydd y teulu yn ystod eu profedigaeth.”