Francesco Guidolin
Mae rheolwr Abertawe Francesco Guidolin wedi mynnu nad yw’r gwaith o gadw’r tîm yn yr Uwch Gynghrair ar ben eto, er gwaethaf buddugoliaethau yn eu dwy gêm ddiwethaf.

Fe lwyddodd yr Elyrch i drechu Arsenal a Norwich yr wythnos diwethaf er mwyn agor bwlch o naw pwynt rhyngddyn nhw a safleoedd y cwymp.

Ond mae Bournemouth mewn safle tebyg ar ôl canlyniadau da eu hunain yn ddiweddar, ac maen nhw bellach dau bwynt yn uwch nag Abertawe wrth i’r ddau dîm baratoi i wynebu ei gilydd heddiw.

Fydd Guidolin ddim yn gyfrifol am y tîm yn ystod y gêm fodd bynnag, gan ei fod yn parhau i wella adref ar ôl haint i’w frest, gydag Alan Curtis yn parhau wrth y llyw dros dro.

Dim anafiadau

Yr unig chwaraewr sydd yn achosi pryder i Bournemouth o ran anafiadau yw eu chwaraewr canol cae nhw, Harry Arter.

Mae gan Abertawe garfan lawn i ddewis ohoni, ac fe fyddan nhw’n gobeithio am ragor o hud a lledrith gan Gylfi Sigurdsson sydd wedi sgorio chwe gôl yn ei ddeg gêm gynghrair ddiwethaf.

Ond fe ddywedodd Francesco Guidolin ei fod eisiau gweld hyd yn oed mwy gan y tîm, ac nad oedden nhw’n saff eto.

“Rydw i’n gwybod bod ein tîm ni’n un da ac fe allwn ni wneud yn well, fe allwn ni orffen y tymor yn dda iawn,” meddai.

“Mae’r Uwch Gynghrair yn anodd a gallwn ni ddim bod yn siŵr, ond mae’r tabl yn edrych yn well i ni.”