Jayne Ludlow
Fe fydd tîm pêl-droed merched Cymru’n herio’r Ffindir ddydd Mercher (12.30) ar ddechrau Cwpan Cyprus, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gweddill eu hymgyrch i gyrraedd Pencampwriaethau Ewro 2017.

Mae Cymru’n drydydd yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2017 ar hyn o bryd, ac fe fyddan nhw’n teithio i Kazhakstan fis nesaf.

Mae’r Ffindir yn ail yn eu grŵp nhw y tu ôl i Sbaen.

Yn ogystal â’r Ffindir, fe fydd Cymru hefyd yn wynebu Gwlad Pŵyl ddydd Gwener, a Gweriniaeth Tsiec ddydd Llun nesaf.

Fe allen nhw wynebu Awstria yn y gemau ail gyfle pe baen nhw’n llwyddo i gyrraedd y rowndiau olaf ar Fawrth 9.

Dywedodd rheolwr y tîm Jayne Ludlow: “Mae’r garfan yn un sydd mewn sefyllfa lle maen nhw’n dysgu am y ffordd ry’n ni’n chwarae, felly mae gwersylloedd ymarfer yn bwysig ofnadwy i ni er mwyn gwneud tipyn o waith.

“Mae’n braf gweld sut mae’r tîm yn datblygu, nid yn unig yn nhermau unedau trefnus ond fel unigolion hefyd. Dyna pam rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gemau sydd i ddod dros y misoedd nesaf.

“Roedd hi bob amser yn mynd i fod yn wir y bydden ni’n cryfhau wrth i ni chwarae mwy o gemau.

“Wrth i’r gemau cystadleuol ddod, rydych chi’n dysgu o bob un, ac rydyn ni’n newid pethau bob tro rydyn ni’n chwarae, newidiadau bach am wahanol resymau.”

 

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan Cyprus: Jo Price, Laura O’Sullivan, Sophie Ingle, Jess Fishlock, Angharad James, Laura-May Walkley, Rachel Rowe, Nia Jones, Helen Ward, Rhiannon Roberts, Natasha Harding, Charlie Estcourt, Kayleigh Green, Nadia Lawrence, Amelia Ritchie, Nicola Cousins, Chloe Chivers, Hayley Ladd, Shaunna Jenkins, Ellie Curson, Loren Dykes, Chloe O’Connor