Church yn meddwl ei fod wedi sgorio'r gôl yn erbyn Israel i sicrhau lle Cymru yn Ewro 2016, cyn gweld fflag y llumanwr yn yr awyr (llun: Nick Potts/PA)
Nid llawer o bobol y tu hwnt i Gymru fyddai wedi sylwi pan symudodd un o ymosodwyr MK Dons i Aberdeen ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo ar ddechrau mis Chwefror.

Ond ers iddo adleoli i’r Alban ar fenthyg mae’r Cymro Simon Church wedi dechrau tanio unwaith eto, gan sgorio dwy gôl – un yn ei gêm gyntaf er mwyn trechu Celtic – a chreu un arall mewn pedwar gêm i’w dîm newydd.

Ac mae’n mynnu ei fod o am wneud bywyd yn anodd i Chris Coleman erbyn mis Mehefin wrth i reolwr Cymru geisio dewis pwy fydd yn arwain y llinell flaen yn Ewro 2016 yn Ffrainc.

“Fe ddaeth y cyfle i fyny i mi symud yn eithaf hwyr yn y ffenestr, ac o ystyried lle’r oedd MK Dons, ac edrych ar Aberdeen a lle roedden nhw ar y pryd, roedd yn ddewis hawdd i mi symud mewn gwirionedd,” meddai’r blaenwr wrth golwg360.

“Yn ffodus fe wnaeth MK Dons adael i mi fynd, a fy mhrif ffocws yw ennill lle yn y garfan ar gyfer yr haf, ond hefyd i fynd yno yn chwarae’n dda, chwarae gemau a rhoi tipyn o gur pen i’r rheolwr mewn gwirionedd.”

Mynd am y gynghrair

Cyfaddefodd Church ei fod wedi cael cynigion gan nifer o glybiau eraill yn Lloegr ym mis Ionawr, ond fod rheolwr Aberdeen wedi llwyddo i’w ddenu ar ôl addo fod y clwb, sydd chwe phwynt o frig y tabl ar hyn o bryd, am ymladd â Celtic tan ddiwrnod olaf y tymor am dlws Uwch Gynghrair yr Alban.

“Roedd cwpl o gynigion o gynghreiriau eraill, ond y symudiad hwn i Aberdeen oedd yr opsiwn gorau i mi,” meddai’r ymosodwr 27 oed.


Simon Church yn ymarfer gyda charfan Cymru cyn y fuddugoliaeth dros Wlad Belg llynedd (llun: CBDC)
“Mae hwn yn glwb sy’n cystadlu gyda Celtic am y tlws, gwthio Celtic yn galed, gwneud yn dda iawn, ac mae ganddyn nhw lawer o gemau ar ôl felly hwn ydi’r cyfle gorau i mi.

“Pan gerddais i mewn i’r ystafell newid ar y diwrnod cyntaf, fe wnaeth y gred yna fy nharo i. Mae’r rheolwr wir yn credu y gallwn ni wthio Celtic yr holl ffordd a chyflawni rhywbeth arbennig eleni.

“Dyna beth ddywedodd wrtha’i pan ddaeth â fi i’r clwb, ac fe wnaeth hynny fy ennill i drosodd yn syth. Mae safon wych yn y garfan, fe fyddwn ni’n aros i Celtic lithro a chymryd ein cyfle pan ddaw.”

Dim Danny

Mae Ash Taylor a Danny Ward yn Gymry eraill sydd hefyd wedi bod yn chwarae’n dda i Aberdeen yn ddiweddar, er bod Ward bellach wedi dychwelyd i Lerpwl ar ôl i’w gyfnod ar fenthyg ddod i ben yn gynnar.

Roedd y golwr ifanc wedi cadw deuddeg llechen lân yn ystod ei gyfnod yn yr Alban a chael ei ganmol yn fawr am ei berfformiadau.


Owain Fôn Williams gafodd y fraint o ennill ei gap cyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd, nid Danny Ward (llun: CBDC)
Fe allai Ward fod wedi ennill ei gap cyntaf dros Gymru llynedd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd, ond fe aeth y fraint i’r gŵr o Benygroes Owain Fôn Williams yn lle hynny.

“Mae’r gystadleuaeth yn y gôl i Gymru mor galed,” cyfaddefodd Church, sydd yn eu ‘nabod yn dda.

“Mae Wayne [Hennessey, y dewis cyntaf] wedi perfformio mor dda ym mhob gêm, gan wneud arbediadau mawr mewn gemau mawr yn rheolaidd, ond fe fydd Danny’n cael ei gyfle.

“Mae’n siomedig ei fod wedi mynd nôl i Lerpwl a ddim yn chwarae, fe allai fod wedi disgwyl cael rhywfaint gemau ar ôl iddyn nhw ei alw o nôl. Ond mae wedi dangos yr hyn mae’n gallu’i wneud, ac unwaith y caiff ei gyfle dw i’n siŵr y bydd yn gafael ynddi â dwy law.

“Dw i’n meddwl efallai ei fod o wedi disgwyl cael cyfle yn erbyn yr Iseldiroedd, ond ar yr un pryd roedd yn wych i Owain gael cap hefyd gan ei fod o wedi bod yn y garfan ers blynyddoedd bellach.”

Cyfweliad: Jamie Thomas