Abertawe 0–1 Southampton                                                         

Roedd un gôl yn ddigon i Southampton wrth iddynt drechu Abertawe ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Rhywdodd Shane Long unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i’r Elyrch golli cyfle i symud ym mhellach o safleoedd y gwymp yn yr Uwch Gynghrair.

Wedi hanner cyntaf di sgôr a braidd yn ddi fflach bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r ail hanner am ychydig o gyffro. Dyna pryd y rhoddodd Graziano Pellè’r bêl yng nghefn y rhwyd yn dilyn cic gornel ond gwelodd y dyfarnwr drosedd gan Jose Fonte ar Lucasz Fabianski yn y gôl i’r Elyrch.

Fu dim rhaid i’r Seintiau aros yn hir cyn mynd ar y blaen serch hynny diolch i beniad Long o groesiad James Ward-Prowse ugain munud o’r diwedd.

Gwastraffodd Modou Barrow gyfle da i unioni i’r tîm cartref bum munud yn ddiweddarach ond ar wahân i hynny, wnaeth tîm Francesco Guidolin ddim bygwth llawer wrth iddo golli am y tro cyntaf wrth y llyw.

Mae Abertawe’n aros yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y canlyniad, ond mae pwynt i Norwich a thri i sunderland yn golygu fod y timau hynny yn ennill tir arnynt.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel (Naughton 67’), Fernandez, Williams, Taylor, Ayew, Cork, Britton (Gomis 73’), Routledge (Barrow 61’), Sigurdsson, Paloschi

.

Southampton

Tîm: Forster, van Dijk, Fonte, Bertrand, Davis, Ward-Prowse, Claise, Romeu (Soares 63’), Targett (Yoshida 86’), Long, Pellè (Austin74’)

Gôl: Long 69’

Cardiau Melyn: Romeu 32’, Clasie 64’, Ward-Prowse 90’

.

Torf: 20,890