Casnewydd 1–0 Caerliwelydd                                                       

Rhoddwyd hwb mawr i obeithion Casnewydd o aros yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn wrth iddynt guro Caerliwelydd ar Rodney Parade.

Roedd gôl ail hanner Scott Boden yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r tîm cartref a’u codi ddeg pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth Casnewydd ar y blaen ddeg munud wedi’r egwyl pan rwydodd Boden yn dilyn gwaith creu Alex Rodman o gic gornel.

Cadw llechen lân oedd tasg nesaf tîm Warren Feeney ac fe wnaethant hynny’n gymharol gyfforddus. Gorffennodd yr ymwelwyr y gêm, nid yn unig heb bwynt, ond gyda deg dyn hefyd yn dilyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch i Brandon Comley ym munud olaf y naw deg.

Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry ddeg pwynt yn glir o safleoedd disgyn yr Ail Adran, er eu bod yn aros yn yr ugeinfed safle.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Jones, Davies, Barrow (Donacien 54’), Rodman, Elito (Klukowski 71’), Byrne, Ayine, Wilkinson, Boden

Gôl: Boden

Cardiau Melyn: Jones 57’, Rodman 83’

.

Carlisle

Tîm: Gillespie, Atkinson, Raynes, Ellis, Gillesphey, Gilliead (Hope 70’), Comley, Kennedy, Sweeney (Joyce 66’), Ibehre (Asamoah 85’), Wyke

Cardiau Melyn: Ellis 26’, Comley 41’, 90’

Cerdyn Coch: Comley 90’

.

Torf: 2,106