Jack Collison (Egghead06 CCA3.0)
Mae’r pêl-droediwr rhyngwladol Jack Collison wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol oherwydd anaf parhaus i’w ben-glin.

Roedd y chwaraewr canol cae 27 oed wedi chwarae 17 o weithiau dros Gymru, ac wedi symud yn ddiweddar o West Ham i Peterborough.

Roedd wedi dioddef anaf i’w ben-glin yn 2009, anaf sydd wedi achosi problemau parhaus iddo.

“Mae’r nosau pan ydw i’n deffro mewn poen, neu’r boreau pan dw i’n ei chael hi’n anodd cerdded, yn fy atgoffa’n barhaus imi fod yn ddigon lwcus i chwarae fy hoff gêm,” meddai.

“Dw i’n dal i ddeffro rhai boreau yn teimlo’n iawn ac yn meddwl rhoi un cynnig arall arni.

“Ond fe fyddai hynny’n annheb arnaf fy hun, ar fy nghyd-chwaraewyr ac ar fy nheulu. Mae’n well rhoi’r gorau iddi heb golli fy malchder.”