Y Barri 2–5 Y Seintiau Newydd                                                     

Roedd y Seintiau Newydd yn rhy gryf i’r Barri yn y diwedd wrth i gewri presennol pêl droed Cymru ymweld â chewri’r gorffennol ar Barc Jenner ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru nos Sadwrn.

Er iddynt ildio gôl gynnar, fe aeth y tîm o gynghrair gyntaf y de ar y blaen yn erbyn y deiliaid yn yr hanner cyntaf, ond yn ôl yn gryf y daeth y Seintiau gan rwydo dwy cyn yr egwyl a dwy arall yn yr ail hanner wrth ennill y gêm yn gyfforddus.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y gêm ar gan milltir yr awr ac roedd hi’n gôl yr un wedi dim ond pum munud.

Rhoddodd Greg Draper yr ymwelwyr ar y blaen, yn gorffen yn daclus yn y cwrt cosbi yn dilyn cyd chwarae da rhwng Aeron Edwards a Jamie Mullan.

Roedd y Barri’n gyfartal o fewn munud serch hynny diolch i Jordan Cotterill, y chwaraewr canol cae yn rhedeg yn bwrpasol at amddiffyn y Seintiau cyn anelu ergyd gywir i’r gornel isaf o ochr y cwrt cosbi.

Yna, roedd sioc ar y gweill wedi deuddeg munud wrth i’r Barri fynd ar y blaen gyda gôl Drew Fahiya. Enillodd Fahiya gic rydd allan ar y chwith cyn penio cic osod Cotterill i gefn y rhwyd.

Cafodd James Dixon gyfle i ddyblu’r fantais yn fuan wedyn yn dilyn gwrthymosodiad chwim ond llwyddodd Paul Harrison i arbed yn gyfforddus yn y gôl i’r Seintiau.

Dechreuodd y tîm llawn amser o’r Uwch Gynghrair reoli wedi hynny ac er i’r Barri amddiffyn yn ddewr am gyfnod, yr ymwelwyr oedd ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i ddwy gôl yn chwe munud olaf yr hanner.

Roedd Mullan yn cael modd i fyw ar yr asgell dde yn erbyn y cefnwr chwith 44 oed, Damon Searle, a dau groesiad ganddo ef a arweiniodd at ddwy gôl hynod debyg i Draper ac Aeron Edwards.

Ail Hanner

Ymdebygodd yr ail hanner i gêm ymarfer mewn gwirionedd wrth i’r Seintiau lwyr reoli’r meddiant a chwarae’r gêm yn hanner y Barri. Prin oedd y cyfleoedd clir serch hynny wrth i’r deiliaid dynnu’r droed oddi ar y sbardun braidd.

Daeth y bedwaredd toc cyn yr awr, Chris Marriott yn gorffen yn gelfydd yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef ac Adrian Cieslewicz ar yr asgell chwith.

Y cefnwr chwith a sgoriodd bumed yr ymwelwyr hefyd ddeunaw munud o’r diwedd, er bod elfen o lwc yn perthyn i honno wrth i’w ergyd o ochr chwith y cwrt wyro oddi ar amddiffynnwr ar ei ffordd i gefn y rhwyd.

Bu rhaid i’r Seintiau fodloni ar bump yn y diwedd ond roedd enw’r deiliaid yn ddiogel yn yr het ar gyfer yr wyth olaf, ble byddant yn herio’r Drenewydd.

.

Y Barri

Tîm: Bradley, Morgan, Briers, Evans, Searle, Saddler, Greening, Fahiya (Feeley 85’), Cotterill (Hartley 79’), Nagi, Dixon (Leigh 79’)

Goliau: Cotterill 5’, Fahiya 12’

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Barker, K. Edwards, Marriott, Seargeant, A. Edwards, Cieslewicz (Brobbel 65’), Williams (R. Edwards 84’), Mullan, Draper

Goliau: Draper 4’, 39’, A. Edwards 42’, Marriott 59’, 73’