Caerdydd 0–0 MK Dons                                                                    

Di sgôr oedd hi wrth i’r MK Dons ymweld â Stadiwm y Ddinas i wynebu Caerdydd yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd Tom Lawrence ei gêm gyntaf i Gaerdydd ers ymuno ar fenthyg o Blackburn, ac ymosodwr Cymru a gafodd gyfle gorau’r Adar Gleision yn yr hanner cyntaf, ond taro’r postyn a wnaeth ei beniad.

Gorffennodd Caerdydd yr hanner cyntaf yn gryf a hwy oedd y tîm gorau wedi’r egwyl hefyd, gyda David Martin yn y gôl i’r ymwleyr yn gorfod bod yn effro i atal Stuart O’Keefe a Scott Malone.

Daeth Lawrence ac Anthony Pilkington yn agos i’r tîm cartref hefyd ac roedd angen arbediad da gan David Marshall i atal Jake Forster-Caskey rhag cipio’r pwyntiau i’r Dons yn hwyr yn y gêm.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth, bum pwynt y tu ôl i Sheffield Wednesday sydd yn chweched.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Fabio, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Ameobi (Zohore 78’), O’Keefe, Ralls, Wittingham, Pilkington (Macheda 87’), Lawrence

.

MK Dons

Tîm: Martin, Baldock, McFadzean, Walsh, Lewington, Potter, Forster-Caskey, Hall (Bowditch 87’), Carruthers, Williams (Murphy 68’), Maynard (Emmanuel-Thomas 68’)

.

Torf: 13,833