Abertawe 1–1 Crystal Palace                                                         

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Abertawe groesawu Crystal Paalce i’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Gylfi Sigurdsson yr Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond tynnodd Scott Dann gôl yn ôl i’r ymwelwyr yn gynnar yn yr ail gyfnod ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

13 munud oedd ar y cloc pan roddodd Sigurdsson Abertawe ar y blaen, y gŵr o Wlad yr Iâ yn ennill cic rydd ei hun cyn rhwydo gyda chynnig gwych o ugain llath.

Andre Ayew a ddaeth agosaf at ddyblu’r fantais ond aros un gôl yn unig ar y blaen a wnaeth yr Elyrch tan yr egwyl.

Unionodd Palace ddau funud yn unig wedi’r ail ddechrau, yr amddiffynnwr canol, Dann, yn rhwydo o gic gornel Yohan Cabaye.

Bu rhaid i Wayne Hennessey fod ar ei orau yn y gôl i’r ymwelwyr i atal Sigurdsson rhag sgorio gyda chic rydd arall saith munud o’r diwedd.

Cafodd Ashley Williams hanner cyfle i’w hennill hi’n hwyr i Abertawe hefyd ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn yn diwedd.

Mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i’w cadw yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair, er i Newcastle gau’r bwlch y tu ôl iddynt i dri phwynt gyda buddugoliaeth gartref y erbyn West Brom.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel (Naughton 87’), Fernández, Williams, Taylor, Cork, Britton, Sigurdsson, Ayew, Paloschi (Gomis 88’), Routledge (Barrow 61’)

Gôl: Sigurdsson 13’

Cerdyn Melyn: Fernández 75’

.

Crystal Palace

Tîm: Hennessey, Ward, Dann, Delaney, Souaré, Mutch, Jedinak, Zaha, Cabaye (Boateng 72’), Lee Chung-yong (Chamakh 45’), Adebayor (Campbell 86’)

Gôl: Dann 47’

Cardiau Melyn: Delaney 54’, Jedinak 56’

.

Torf: 20,492