Robert Earnshaw
Mae cyn-ymosodwr Cymru, Robert Earnshaw, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed.

Cafodd ei gapio 59 gwaith i Gymru tra’n chwarae i West Brom, Norwich, Derby a Nottingham Forest ar ôl dechrau ei yrfa yng Nghaerdydd, lle sgoriodd dros 100 o goliau yn ei gyfnod cyntaf yn ei glwb lleol.

Roedd ei goliau mwyaf cofiadwy i Gymru’n cynnwys y gôl fuddugol yn ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn yr Almaen yn 2002 a thair yn erbyn Yr Alban yn 2004.

Mae hefyd wedi chwarae i Maccabi Tel Aviv yn Israel ac wedi gorffen ei yrfa yng ngogledd America gyda chyfnodau yn Toronto FC, Chicago Fire a’r Vancouver Whitecaps.

Fe fydd y pêl-droediwr 34 mlwydd oed nawr yn dechrau ar gyfnod newydd fel hyfforddwr tîm o dan 14 y Vancouver Whitecaps a hyfforddwr ymosodwyr y clwb.

Dywedodd Robert Earnshaw, a gafodd ei eni yn Zambia a’i fagu yng Nghaerdydd, mewn datganiad: “Mae pêl-droed wedi dysgu i mi sut i fod yn ddyn, ar ac oddi ar y cae, ac i fod yn berson gwell.

“Rwy wastad wedi bod ofn gweld diwedd fy ngyrfa chwarae a nawr ei fod wedi cyrraedd, rwy’n drist.

“Ond rwy’n gyffrous bod y Vancouver Whitecaps wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn brif hyfforddwr y tîm dan 14 yn ogystal â hyfforddwr ymosodwyr y clwb.”