Jake Taylor
Mae chwaraewr canol cae Cymru Jake Taylor wedi symud i Gaerwysg yng Nghynghrair Dau wedi i Reading ei ryddhau o’i gytundeb.

Roedd y chwaraewr 24 oed wedi bod gyda’r Royals drwy gydol ei yrfa, ond yn ddiweddar roedd wedi bod ar fenthyg yn Uwch Gynghrair yr Alban gyda Motherwell.

Yn ystod cyfnod yn nhîm cyntaf Reading yn 2014 fe gafodd ei alw i garfan Cymru, ble enillodd gap oddi ar y fainc yn y gêm ragbrofol Ewro 2016 erbyn Cyprus.

Ond chafodd o mo’i gynnwys yn y garfan o gwbl llynedd, ac fe fydd symud i Gynghrair Dau yn debygol o fod yn ergyd bellach i’w obeithion o ddychwelyd i dîm Chris Coleman.

Newid byd

Mae Caerwysg yn 13eg yn nhabl Cynghrair Dau ar hyn o bryd ac yn wynebu brwydr galed bellach os ydyn nhw am geisio sicrhau dyrchafiad eleni.

Mae carfan Caerwysg yn cynnwys dau chwaraewr arall, Christian Ribeirio ac Arron Davies, sydd hefyd wedi ennill ambell gap i Gymru yn y gorffennol.

Dywedodd Jake Taylor, a dreuliodd gyfnod ar fenthyg yng Nghaerwysg dair blynedd yn ôl, y byddai’n gyfle i ddechrau’n ffres gyda’i yrfa.

“Dw i wedi bod yn Reading ers mod i’n wyth oed, felly mae’n teimlo fel mod i wedi bod yno drwy gydol fy mywyd,” meddai.

“Rydw i’n edrych ymlaen at gael blas o brofiad hollol wahanol.”