Sam Jones, sgoriwr y gôl aeth â Dinbych i'r ffeinal
Does dim byd gwell gan eitem Tîm yr Wythnos Golwg360 na brwydr Dafydd v Goliath go iawn, ac mae’n sicr gennym ni un o’r rheiny i chi’r wythnos yma.

Wythnos diwethaf fe gawsom ni ein cyflwyno i dîm hoci merched Pwllheli, oedd yn paratoi ar gyfer dwy gêm dros y penwythnos yn ogystal ag edrych tua’r dyfodol gyda’r gobaith o gael cae newydd gwerth £170,000.

Heddiw mae’n sylw ni’n troi at bêl-droed wrth i’n Tîm yr Wythnos ddiweddaraf ni, CPD Dinbych, baratoi ar gyfer un o’r gemau mwyaf yn y calendr ddomestig.

Ddydd Sadwrn fe fydd Dinbych yn camu i’r cae yn Llandudno i herio Y Seintiau Newydd yn ffeinal Cwpan Word, gan obeithio codi’r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes.

Fe fydd ganddyn nhw dipyn o her o’u blaenau, o gofio mai dim ond fel wildcard o gynghrair yr Huws Gray Cymru Alliance y cawson nhw eu cynnwys yn y gystadleuaeth yn y lle cyntaf.

Mae’r Seintiau ar y llaw arall yn gewri’r gêm yng Nghymru ac ar frig yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, a hynny ar ôl cipio Cwpan Word fel rhan o’r trebl llynedd.

Doedd hynny ddim i’w weld yn poeni Sam Jones, fodd bynnag, wrth i chwaraewr canol cae Dinbych rannu’i farn â ni cyn y gêm fawr:

£10,000 am ennill

Mae Sam Jones yn gwybod yn barod sut deimlad yw hi i drechu timau mwy o’r Uwch Gynghrair – fo sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Ddinbych guro gap Cei Connah yn y rownd gynderfynol.

Cyn hynny roedden nhw eisoes wedi trechu Rhyl ac Airbus o’r Uwch Gynghrair, a Chaergybi o’r Huws Gray, yn rowndiau cynharach y gystadleuaeth.

Ac mae rheolwr Dinbych Gareth Thomas yn gobeithio gallu concro’r tîm mwyaf ohonyn nhw i gyd yn y ffeinal, a sicrhau gwobr ariannol o £10,000 i’w glwb yn y broses.

“Mae pawb yng Nghlwb Pêl-droed Dinbych yn edrych ymlaen at gynrychioli’r Huws Gray Cymru Alliance yn ffeinal Cwpan Word,” meddai’r rheolwr.

“Fe fydd hi’n brofiad gwych i’r holl chwaraewyr gael chwarae yn y ffeinal ac maen nhw i gyd yn edrych ymlaen at yr her o chwarae’r Seintiau Newydd.”

Er y byddai trechu’r Seintiau Newydd yn un o’r canlyniadau mwyaf syfrdanol yn hanes pêl-droed Cymru, mae ymosodwr Dinbych Mark Roberts yn dawel hyderus.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at gael chwarae mewn ffeinal mor fawr. Rydan ni’n gwybod y bydd hi’n galed iawn i ni, ond dw i’n edrych ymlaen at greu sioc,” meddai.

Seintiau yn y ffordd

Fe fydd Y Seintiau Newydd, wrth gwrs, yn gwneud eu gorau i sicrhau na fydd Dinbych yn cael eu dwylo ar y gwpan.

“Ar ôl ennill llynedd dw i mor benderfynol ag erioed i wneud hynny eto,” meddai rheolwr YSN Craig Harrison.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd Dinbych yn ceisio gwneud pethau’n anodd i ni ond dw i’n siŵr os wnawn ni bethau yn y ffordd iawn y gallwn ni sicrhau’r fuddugoliaeth.”

Mae ymosodwr y Seintiau Newydd Scott Quigley, a enillodd seren y gêm yn y ffeinal llynedd pan drechwyd y Bala, hefyd yn gobeithio cymryd y cam cyntaf tuag at drebl arall eleni.

“Dw i eisiau helpu’r tîm i’w ennill o eto, a wnawn ni ddim anwybyddu unrhyw beth yn ein paratoadau i gael ein dwylo ar y tlws,” meddai.

Fe fydd ffeinal Cwpan Word yn dechrau am 5.15yp dydd Sadwrn 23 Ionawr ym Mharc MBi Maesu, Llandudno, ac fe fydd y gêm hefyd yn fyw ar Sgorio.