Bu Tyler Roberts yn ymarfer gyda charfan Cymru llynedd (llun: CBDC)
Mae ymosodwr ifanc West Brom, Tyler Roberts, wedi arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r clwb.

Roedd y chwaraewr fu’n dathlu ei ben-blwydd yn 17 oed yr wythnos hon, yn gapten ar dîm dan-16 Cymru pan enillon nhw’r Victory Shield am y tro cyntaf mewn 66 mlynedd yn 2014.

Mae’r ymosodwr yn cael ei weld fel un o’r chwaraewyr mwyaf addawol sydd gan y tîm cenedlaethol, ac mae eisoes wedi cael ei gynnwys ar fainc tîm cyntaf West Brom ddwywaith.

Llynedd cafodd ei wahodd i ymarfer ochr yn ochr â Gareth Bale ac Aaron Ramsey gyda gweddill carfan Cymru, gan ei fod yn gymwys i chwarae dros y wlad drwy ei nain a’i daid.

Un cam ar y tro

Mae Tyler Roberts wedi bod gyda West Brom ers ei fod yn saith oed, ac fe ddywedodd mai’r cam nesaf oedd ceisio torri mewn i’r tîm cyntaf gyda’r Baggies.

“Fe ddywedodd [hyfforddwyr yr academi] wrtha i am ddefnyddio hwn fel cam arall,” meddai’r ymosodwr ifanc.

“Peidio setlo am hyn, ond gwthio fy hun ymlaen a bod yn aelod rheolaidd yng ngharfan y tîm cyntaf.

“Fe ddywedon nhw wrtha i am barhau i wneud beth dw i wedi bod yn ei wneud. Falle wedyn ddaw’r cyfleoedd. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw a fy nheulu hefyd.”

‘Talent gwych’

Mae rhai hyfforddwyr yn West Brom eisoes wedi awgrymu fod Tyler Roberts yn well nag yr oedd Saido Berahino pan oedd hwnnw yn llanc 17 oed.

Mae Berahino, 22, yn nhîm cyntaf West Brom ac wedi denu sylw clybiau fel Tottenham a Chaerlŷr, gyda’r Baggies yn gwrthod cynnig o £15m gan Spurs amdano llynedd.

Ychwanegodd rheolwr tîm cyntaf West Brom, y Cymro Tony Pulis, fod Roberts yn “chwaraewyr gwych ac yn dalent gwych”.

“Hwn yw’r cam cyntaf iddo. Beth mae’n rhaid iddo beidio gwneud nawr yw ymlacio neu gymryd camau nôl. Mae’n rhaid iddo barhau i wella.”