Jonjo Shelvey
Mae Newcastle ac Abertawe wedi cytuno ar ffi o tua £12m am Jonjo Shelvey, yn ôl adroddiadau heddiw.

Dywedodd Sky Sports News a BBC Sport bod disgwyl i’r chwaraewr canol cae gael prawf meddygol gyda’r Magpies heddiw cyn cwblhau’r trosglwyddiad.

Fe arwyddodd Shelvey i Abertawe yn 2013 o Lerpwl am ffi o £5m, ac roedd yn rhan ganolog o’r tîm orffennodd yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Byddai gwerthu’r chwaraewr 23 oed am y ffi sydd wedi’i grybwyll yn golygu bod gan y rheolwr Alan Curtis arian i’w wario ar rannau eraill o’i garfan.

Chwilio am ymosodwr

Mae Newcastle eisoes wedi arwyddo’r ymosodwr Henri Saivet a dydd Llun fe wrthododd eu rheolwr Steve McClaren wadu ei fod hefyd yn awyddus i arwyddo Shelvey.

Roedd rheolwr Abertawe Alan Curtis eisoes wedi cyfaddef na fyddai’n atal y chwaraewr canol cae rhag gadael os oedd y ffi trosglwyddo sylweddol yn golygu bod arian i’w wario ar gael eraill i mewn yn ei le.

Unwaith y bydd Shelvey’n gadael mae disgwyl i’r Elyrch geisio cryfhau eu hymosod, gan mai dim ond un gôl y mae eu prif flaenwr Bafetimbi Gomis wedi sgorio yn y gynghrair ers mis Awst.

Yn ôl adroddiadau yn yr Eidal mae Abertawe eisoes wedi gweld cynnig am ymosodwr Napoli Manolo Gabbiadini yn cael ei wrthod.