Alan Curtis
Mae Alan Curtis wedi mynnu ei fod yn barod am yr her o gadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair – er mai gêm gwpan fydd ei gyntaf wrth y llyw fel y rheolwr parhaol newydd.

Fe gyhoeddodd y cadeirydd Huw Jenkins yr wythnos hon bod Curtis, oedd gynt yn hyfforddwr gyda’r clwb, wedi cael ei benodi tan ddiwedd y tymor ar ôl i’r clwb fethu â denu rhai o’r rheolwyr roedden nhw wedi’i dargedu.

Gyda’r tîm dim ond dau bwynt yn uwch na safleoedd y cwymp ar hyn o bryd mae hynny wedi arwain at bryderon fod gan Curtis frwydr galed o’i flaen i gadw Abertawe yn y gynghrair.

Ond ers cymryd yr awenau dros dro mae’r hyfforddwr, sydd yn eicon gyda chefnogwyr yr Elyrch ers ei ddyddiau chwarae, wedi troi cornel gan sicrhau pum pwynt o bum gêm.

Newid meddylfryd

“Dw i byth wedi gweld fy hun fel rheolwr ond fe allwch chi newid y meddylfryd yna’n sydyn,” meddai Curtis, wrth iddo baratoi’r tîm ar gyfer ymweliad â Rhydychen yng Nghwpan yr FA ddydd Sul.

“Pan ‘dych chi’n cael y cyfle i sicrhau bod y clwb yn aros yn yr Uwch Gynghrair rydych chi’n troi i fod yn rheolwr yn reit sydyn.

“Dw i erioed wedi bod ag uchelgais i fod yn rheolwr, yn enwedig yn yr Uwch Gynghrair, ond fe gawn ni weld sut aiff y cyfnod yma.

“Y peth pwysig yw ein bod ni’n aros yn yr Uwch Gynghrair. Dyna’r unig beth y byddai’n canolbwyntio arno yn y 18 gêm nesaf.”

Newidiadau

Roedd Abertawe wedi ceisio denu rheolwyr fel Brendan Rodgers, Marcelo Bielsa, Gus Poyet a Dennis Bergkamp i’r swydd, ond ar ôl iddyn nhw i gyd wrthod am wahanol resymau fe ofynnwyd i Alan Curtis a oedd ganddo awydd parhau yn ei rôl dros dro nes diwedd y tymor.

“Mae’n gyfrifoldeb anferth, ond fydden i byth fod wedi gallu gwrthod,” meddai’r rheolwr newydd.

Mae disgwyl i Curtis wneud sawl newid i dîm Abertawe ar gyfer yr ornest yn erbyn Rhydychen o gofio bod gan yr Elyrch gêm gynghrair bwysig yn erbyn Sunderland tridiau yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i chwaraewyr fel Kristoffer Nordfeldt, Kyle Bartley, Jordi Amat, Modou Barrow ac Ashley Grimes i gyd gael cyfle, ac fe allai Franck Tabanou ac Eder hefyd gael gêm os ydyn nhw’n gwella o anafiadau mewn pryd.