Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn edrych ar pam ddylai Cymru groesawu’r cyfle i herio’r hen elyn yn Ffrainc – a rhesymau pam y byddai wedi bod yn dda eu hosgoi …

Mae rhai eisoes wedi bwcio awyrennau a gwestai, eraill yn paratoi i groesi’r sianel gyda campervan, a llawer mwy yn edrych ymlaen yn eiddgar at wylio Ewro 2016 yn eu stafell fyw ac mewn tafarndai ledled Cymru.

Ydyn, mae’r grwpiau wedi cael eu dewis o’r diwedd, ac yn sydyn reit mae’n taro rhywun go iawn – fe fydd Cymru mewn twrnament rhyngwladol yn Ffrainc y flwyddyn nesaf!

Wrth gwrs, yn ogystal â Slofacia a Rwsia, fe ddaeth yr hen elyn allan o’r het ac mae tipyn o sylw wedi cael ei roi yn y cyfryngau yn barod i’r ornest yn erbyn Lloegr yn Lens ar 16 Mehefin.

Hoffi neu beidio – ac mae sawl un eisoes wedi dechrau syrffedu ar hunanhyder y wasg a chefnogwyr Lloegr – mae’r gêm yn debygol o gael ei thrafod yn helaeth dros y misoedd nesaf.

Felly beth am gip bach mwy Cymreig ar bethau, wrth ystyried beth sydd gan gefnogwyr Cymru i edrych ymlaen ato ymhen chwe mis?

Canlyniad hanesyddol

Yn gyntaf, fe fydd hi’n gyfle i herio hen elyn a sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i dîm sydd eisoes wedi anfarwoli’u hunain.

Byddai curo Lloegr mewn cystadleuaeth ryngwladol o bosib yn cael ei ystyried fel y canlyniad gorau erioed yn hanes pêl-droed Cymru.

Dychmygwch y pleser fyddai cefnogwyr Cymru’n ei gael o drechu’r Saeson ymffrostgar, gorhyderus, a hynny mewn camp ble (yn wahanol i rygbi) dydyn ni ddim wedi arfer cael ein hystyried cystal â nhw?

Cymry cryf …


A fydd dau chwaraewr gwell ar y cae nag Aaron Ramsey a Gareth Bale? (llun: CBDC)
Mae hi’n amser grêt i herio Lloegr hefyd, gyda thîm Cymru y gorau maen nhw wedi bod ers blynyddoedd maith, ac yn llawn hyder ar ôl cyrraedd yr Ewros.

Yn Gareth Bale mae gennym ni chwaraewr sydd ben ag ysgwyddau yn well nag unrhyw un o chwaraewyr Lloegr, ac mae Aaron Ramsey ac Ashley Williams hefyd yn well na’r un o’r Saeson yn eu safle nhw ar y funud mae’n siŵr.

Gydag asgwrn cefn tîm Cymru mor gryf, does dim adeg well i herio’r Saeson – hwn fydd ein cyfle gorau ni ers blynyddoedd i ennill yn eu herbyn.

… a Lloegr gwan

Ar bapur byddai’n anodd dadlau bod Lloegr, a enillodd pob un o’u deg gêm ragbrofol i gyrraedd Ewro 2016, yn un ‘gwan’.

Ond mae eu prif ymosodwr nhw Wayne Rooney wedi anghofio sut i ganfod cefn y rhwyd ers sbel, ac mae eu carfan nhw’n gymysgedd o hen bennau sydd ddim cystal â’r genhedlaeth gynt, a chwaraewyr ifanc dawnus ond dibrofiad.

Maen nhw’n dîm sydd yn dal i geisio canfod eu steil, a does dim amheuaeth y gallai Cymru fod wedi cael timau tipyn gwell o Bot Un, felly os oes adeg dda i herio Lloegr, dyma hi.

Pwysau ar y Saeson

Un peth sydd yn wir am Loegr mewn pob twrnament rhyngwladol ydi’r ffaith eu bod nhw’n disgyn i ddarnau o dan bwysau.

Yn y gorffennol mae popeth o ddisgwyliadau uchel i ddiffyg disgyblaeth a chiciau o’r smotyn wedi anfon y Saeson gartref yn gynnar, a fydd hi’n ddim gwahanol eleni.

Bydd y wasg Brydeinig yn disgwyl iddyn nhw ennill y grŵp yn gyfforddus, ac fe fydd pwysau aruthrol arnyn nhw i drechu Cymru fach yn yr ail gêm.

Fydd dim pwysau o gwbl ar Gymru, ar y llaw arall, ac mae’n golygu y gallai tîm Chris Coleman aros eu cyfle a chwilio am gyfle i wrthymosod wrth i Loegr golli’u pennau.

Dangos i’r byd


Cefnogwyr Cymru'n cadw sŵn yn ystod ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 (llun: Adam Davy/PA)
Yn fwy na dim, fe fydd Cymru v Lloegr yn Ewro 2016 yn gyfle i ddangos i’r byd pwy ydyn ni fel cenedl – dim mwy o geisio esbonio wrth bobl pan ydyn ni’n mynd ar wyliau nad ydan ni’n Saeson.

Fe fydd cynulleidfa deledu ym mhob cwr o’r byd yn cael cyfle o’r diwedd i weld y Ddraig Goch yn chwifio a Hen Wlad Fy Nhadau’n cael ei bloeddio canu.

Cwpan y Byd a’r Gemau Olympaidd ydi’r unig ddigwyddiadau sydd yn denu mwy o wylwyr na’r Ewros ledled y byd, felly bydd hwn yn gyfle amhrisiadwy i roi Cymru ar y map go iawn.

A phum rheswm pam y byddai wedi bod yn well eu hosgoi …

Twrw’r cyfryngau

Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n gorfod gwrando ar dipyn o glochdar dros y misoedd nesaf o gyfryngau sydd yn naturiol yn Saesnig eu byd olwg, a chlywed y trafod nawddoglyd am Gymru. Dim modd osgoi hwnnw’n anffodus.

Trwbl yn Lens

Fe fydd llawer o bryder am ddiogelwch wrth i’r ddau dîm gyfarfod yn Lens mewn stadiwm sydd ond yn dal 35,000, a hynny mewn tref sydd â phoblogaeth hyd yn oed yn llai sydd dim ond awr o Calais.

Dim ond croesi bysedd na fydd helyntion rhwng y cefnogwyr (a ffodus felly bod cic gyntaf y gêm mor gynnar yn y dydd, fel bod llai o yfed o flaen llaw).

Safon dda

Iawn, mae Cymru ar eu gorau ers sbel, a Lloegr ar eu gwanaf ers sbel, ond maen nhw dal ar bapur yn ffefrynnau i’n curo ni. Fe allai’r gêm hon gael ei ychwanegu at restr hir o golledion yn erbyn y Saeson.

Cyfarfod y newydd

Roedd cefnogwyr Cymru wedi gobeithio mwynhau eu trip i Ffrainc a chael herio timau newydd a gwahanol mewn dinasoedd diddorol – felly dim Lloegr, a dim Lens.

Cyfle arall

Fel yr ail gêm grŵp, byddai hi bron yn amhosib i Gymru anfon Lloegr allan o’r gystadleuaeth gyda buddugoliaeth, gan y byddai gan y tîm sydd yn colli un cyfle arall. Gwell fyddai bod wedi eu herio rownd neu ddau yn hwyrach, a gorffen y job!