Ryan Giggs (soccer.ru CCA 3.0)
Mae enw Ryan Giggs bellach yn cael ei gysylltu gyda’r swydd wag yng nghlwb pêl-droed Abertawe – er nad oes dim awgrym swyddogol wedi dod o Stadiwm Liberty.

Cyn-seren ryngwladol Cymru yw’r dirprwy hyfforddwr yn ei hen glwb Manchester United ond mae sïon ei fod yn anhapus yno oherwydd dulliau’r rheolwr, Louis Van Gaal.

Dyw Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, ddim wedi rhoi awgrym o gwbl o pwy sy’n cael ei ysytried ar ôl i Garry Monk gael ei ddiswyddo yr wythnos yma – mae gweddill y tîm hyforddi wedi gadael hefyd.

‘Trist’

Fe ddywedodd Monk neithiwr ei fod yn drist wrth adael y clwb lle’r oedd wedi bod yn gapten wrth iddyn nhw godi o’r bedwaredd adran i’r ucha’ yng Nghynghrair Lloegr.

Ond roedd yna air o gysur iddo gan reolwr Stoke City a chyn-reolwr Cymru, Mark Hughes.

Fe ddywedodd wrth y BBC y byddai Garry Monk yn gryfach a gwell rheolwr o ganlyniad i’r profiad o gael ei ddiswyddo.