Iolo Cheung
Iolo Cheung sy’n edrych ar bwy sydd wedi serennu a siomi i’w clybiau wrth gystadlu am le yng ngharfan Ewro 2016 …

Gydag ond chwe mis tan Ewro 2016 mae’r frwydr wedi dechrau poethi rhwng chwaraewyr Cymru i weld pwy fydd yn sicrhau eu lle yn y garfan fydd yn mynd i Ffrainc.

Bydd sawl un o’r chwaraewyr, oni bai am anaf, yn saff o fod ar yr awyren honno wrth gwrs gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Ashley Williams a Wayne Hennessey.

Cafodd eraill gyfle i greu argraff ar Chris Coleman yn y gêm gyfeillgar ddiweddar yn erbyn yr Iseldiroedd, wrth i reolwr Cymru geisio penderfynu ar y 23 terfynol.

Mae golwg360 hefyd wedi bod yn cadw llygad ar sut mae’r Cymry yn gwneud gyda’u clybiau bob wythnos, gan gynnwys pwy sydd wedi bod yn chwarae neu ar y fainc, a phwy sydd wedi serennu neu siomi.

Bellach wrth gwrs mae pob math o ystadegau hefyd yn gallu helpu i greu darlun o berfformiadau chwaraewyr pêl-droed – felly beth mae’r rheiny wedi bod yn ei ddweud am y Cymry hyd yn hyn y tymor yma?

Emyr yn serennu

Mae Squawka a WhoScored yn esiamplau o wefannau sy’n casglu’r wybodaeth ystadegol am bêl-droed proffesiynol er mwyn sgorio chwaraewyr neu roi marciau am eu perfformiadau.

Fe fydd y rhain yn cael eu teilwra i wahanol chwaraewyr, felly os ydyn nhw’n ymosodwyr fe fydd goliau wrth gwrs yn cyfri’n fawr tuag at eu sgôr.

I chwaraewyr canol cae mae meddiant a chreu cyfleoedd yn bwysig, tra bod ystadegau taclo ac adennill y bêl yn bwysig i amddiffynwyr.

Mae cip ar ystadegau Squawka a WhoScored ar gyfer chwaraewyr Cymru’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth yn creu darlun eithaf diddorol, gyda chwaraewyr gwahanol yn dod i’r brig yn y ddau.

Dyma graff Squawka, sy’n adeiladu sgôr o berfformiadau dros eu clwb o ddechrau’r tymor – chwaraewr canol cae Huddesfield Emyr Huws sy’n dod i’r brig yn hwn:


Sgôr Squawka ar gyfer chwaraewyr Cymru y tymor yma
Roedd Huws yn tanio’r goliau i’w glwb yn gynharach yn y tymor ac fe sgoriodd ei gyntaf dros Gymru’n ddiweddar, felly dim syndod i weld bod y bachgen o Lanelli yn serennu yn y siartiau.

Ymysg yr enwau eraill sydd yn uchel ar y rhestr mae Ashley Williams, Gareth Bale, David Cotterill a David Vaughan, sydd i gyd wedi bod yn chwarae’n gyson i’w clybiau ac wedi cael eu canmol o dro i dro yn ein ‘Cip ar y Cymry’.

Ond dydi eraill ddim yn gwneud cystal – mae Paul Dummett a James Chester, dau o’n hamddiffynwyr ni yn yr Uwch Gynghrair, yn y tri isaf o ran sgôr gan adlewyrchu eu tymhorau siomedig nhw hyd yn hyn.

Dydi’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr sydd yn hanner isaf y siart heb chwarae llawer i’w clybiau hyd yn hyn y tymor yma – boed hynny oherwydd bod eu llond llaw o berfformiadau yn wael, neu fod eu llond llaw o berfformiadau wedi golygu nad ydyn nhw wedi cael cyfle iawn i ddangos eu gallu.

Ond mae tri chwaraewr sydd â sgôr yn yr hanner isaf – Neil Taylor, Morgan Fox ac Adam Henley – i gyd wedi chwarae o leiaf 14 gêm gynghrair yr un i’w clybiau, gan awgrymu eu bod nhw wedi bod yn chwarae’n gyson siomedig eleni.

Church yn stryffaglu

Stori debyg sydd i ystadegau WhoScored, sy’n defnyddio system sgorio ‘allan o 10’ mwy cyfarwydd yn hytrach na sgoriau positif/negatif Squawka.

Yr un enwau sydd ar y brig yn fan hyn ond mewn trefn ychydig yn wahanol gyda Bale yn arwain y ffordd, a Vaughan, Huws ac yna Ashley Williams yn dilyn.

Mae’r pedwar yna yn ogystal â Cotterill, Ramsey, Sam Vokes a Dave Edwards yn neg uchaf y ddau siart, felly da iawn nhw:


Marciau cyfartalog allan o ddeg WhoScored i chwaraewyr Cymru
Mae’r tri siomedig ar siart Squawka – Taylor, Fox a Henley – ychydig yn uwch yn ystadegau WhoScored ond dal yn yr hanner isaf.

Yr un sy’n sefyll allan ydi Simon Church, sydd wedi chwarae 16 gwaith dros MK Dons eleni ond â marc cyfartaledd o ddim ond 6.23 allan o 10 – dim syndod efallai o gofio mai dim ond dwy gôl mae’r ymosodwr wedi sgorio.

Ymysg y chwaraewyr eraill amlwg sy’n isel yn y ddwy restr mae Hennessey, Chester a Jonny Williams – ydi hynny’n cyfiawnhau pam bod Chester a Joniesta wedi bod ar y fainc i’w clybiau cymaint yn ddiweddar?

Lynch a Myhill

Dydi ystadegau ddim wastad yn adrodd y stori gyfan wrth gwrs. Mae gan Hennessey sgôr cymharol isel yn rhannol oherwydd pethau fel faint o arbediadau mae’n ei wneud am bob gôl mae’n ildio.

Ond mae wedi bod yn chwarae i dîm sydd heb ildio llawer o gyfleoedd beth bynnag, a dydi ystadegau o’r fath ddim yn mesur pa mor anodd neu hawdd oedd yr ergydion mae o wedi’i adael i mewn.

Rhaid cofio bod yr ystadegau yma ddim ond yn cynnwys gemau cynghrair hefyd, felly ddim yn adlewyrchu perfformiadau da neu wael mewn gemau cwpan neu dros Gymru eleni – ac wrth gwrs, dydi sgôr is i rywun fel Joe Allen sy’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair ddim yn golygu’i fod yn waeth chwaraewr na Dave Edwards o’r Bencampwriaeth er enghraifft.

Dydi’r ddau siart ddim yn cyfateb mewn rhai mannau chwaith. Mae Dummett, Fox, Rhoys Wiggins, Michael Doughty a Ben Davies, er enghraifft, tipyn uwch ar siart WhoScored na maen nhw gyda Squawka, tra bod y gwrthwyneb yn wir am Church, Tom Lawrence, Chris Gunter, Joe Ledley.

Mae ambell ganfyddiad difyr arall hefyd, gan gynnwys cystal mae’r amddiffynnwr Joel Lynch a’r golwr Boaz Myhill wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn.

Nhw ydi’r unig ddau yn hanner uchaf y ddwy restr wnaeth ddim chwarae dros Gymru yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 o gwbl (yn achos Myhill am ei fod wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol).

Ar y llaw arall nid yw dau ddewis cyntaf Cymru yng nghanol cae, Ledley ac Allen, ond wedi chwarae wyth gêm gynghrair rhyngddyn nhw a rydan ni bellach ym mis Rhagfyr – mi fydd angen mwy o gemau ar y ddau rhwng rŵan a’r Ewros yn sicr.

Pwy sydd wedi dal y llygad i chi hyd yn hyn y tymor yma? Pwy sydd wedi eich siomi? Ydi’r ystadegau yn weddol agos ati o ran pwy sydd wedi bod yn perfformio, neu oes mwy iddi na hynny? Gadewch eich sylwadau isod.