Golwg360 yn awgrymu anrhegion i gefnogwyr pêl-droed brwd yn y teulu …

Maen nhw wedi bod yn bownsio oddi ar y waliau ers misoedd, canu ‘Hal Robson-Kanu’ yn y gawod bob dydd, ac mae bron pob tab ar eu laptop un ai’n wefan carafanau neu westai yn Ffrainc.

Efallai eich bod chi wedi clywed hen ddigon bellach gan y ffrind neu aelod o’r teulu yma, ond dydi hynny ddim am eu stopio nhw – yr unig beth sydd ar eu meddyliau nhw ar hyn o bryd ydi gwylio Cymru yn Ewro 2016 y flwyddyn nesaf.

Felly gyda’r Nadolig yn nesáu, mae Iolo Cheung wedi cymryd cip ar rai o’r anrhegion delfrydol ar gyfer y cefnogwyr briwyd hynny – ac i chi’r cefnogwyr sy’n darllen, croeso i chi argraffu copi a’i bostio at Sion Corn!

Llyfr sticeri Panini

Fe fethodd cenedlaethau o blant Cymru’r cyfle i gasglu sticeri Panini o’u tîm nhw wrth i un twrnament rhyngwladol ar ôl y llall basio heb y crysau cochion ynddynt.

Felly mae hwn yn anrheg allai blesio nid yn unig y cefnogwyr ieuengach ond ambell un o’r tadau sydd eisiau ail-fyw eu plentyndod coll.

Red Dragons


Fersiwn newydd Red Dragons gan Phil Stead (llun: Y Lolfa)
Fe fydd sawl cyfrol am y pêl-droedwyr yn cyrraedd silffoedd y siopau dros y misoedd nesaf, wrth i’r cyffro adeiladu ar gyfer y twrnament.

Ond dydi’r tîm pêl-droed ddim wastad wedi bod mor llwyddiannus â hyn, ac mae cefnogwyr Cymru wedi hen arfer â methiant dros y blynyddoedd.

Lle gwell i ddechrau felly na llyfr Red Dragons gan Phil Stead, sydd yn adrodd hanes tîm Cymru o pan gafodd ei ffurfio i’r presennol.

Mae’r awdurdod ar hanes y tîm cenedlaethol wedi diweddaru’r llyfr eleni gyda phennod newydd ar ymgyrch lwyddiannus Ewro 2016 – gan gyfaddef nad oedd o erioed wedi disgwyl y buasai’n gorfod gwneud!

Zombie Nation Awakes


Zombie Nation Awakes - dyddiadur y gohebydd-gefnogwr Bryn Law (llun: St David's Press)
Un arall i’r pentwr llyfrau hanfodol ar gyfer unrhyw gefnogwr Cymru fydd dyddiadur gohebydd Sky Sports, Bryn Law, sydd wedi bod yn ddilynwr triw i’r tîm dros y blynyddoedd.

Mae’r gyfrol yn adrodd hanes yr ymgyrch lwyddiannus gêm wrth gêm, gyda straeon difyr a doniol y gŵr o Wrecsam yn gymysg ag adegau emosiynol a phersonol.

Ar ôl dechrau dyddiadur tebyg sawl gwaith o’r blaen dim ond i roi’r ffidil yn y to wedi i’r ymgyrchoedd fynd o chwith, mi fydd y llyfr yma’n gyfle i edrych nôl ar flwyddyn wych y tîm drwy lygad un o’r rheiny fu yn ei chanol hi.

Bucket Hat Spirit of ‘58


Y bucket hats bondigrybwyll (llun: CBDC)
Maen nhw’n edrych yn hurt mewn bron unrhyw amgylchiadau eraill.

Ond ar drip oddi cartref Cymru mae’r hetiau bwced yn rhan o git angenrheidiol unrhyw gefnogwr gwerth ei halen, ac am gwpl o ddyddiau mae dinasoedd ledled Ewrop yn fôr o bennau coch, melyn a gwyrdd.

Tim Williams Spirit of ’58 ydi un o’r gwerthwyr nwyddau pêl-droed Cymru, ac mae ei wefan yn cynnwys nifer o eitemau eraill o ddiddordeb gan gynnwys bathodynnau pin, mygiau a chrysau-t.

Crys-t ‘Dim Hal Dim Hwyl’


Syml a di-lol, jyst fel Andrea Pirlo (llun: @JoeLedleysBeard)
Does bron neb yn y byd pêl-droed mor cŵl ag Andrea Pirlo (heblaw am Joe Ledley wrth gwrs), dewin canol cae barfog yr Eidal serennodd yn yr Ewros diwethaf yn 2012, a gafodd ei weld yn gwisgo crys-t gyda’r geiriau ‘No Pirlo No Party’ arno.

Yn ystod ymgyrch Ewro 2016 fe ddaeth cefnogwyr Cymru o hyd i ffigwr cwlt eu hunain, yr ymosodwr Hal Robson-Kanu sydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn plodio ar y cae i’w glwb Reading ond yn cael ei drawsnewid pan mae’n gwisgo’r crys coch.

Mae ei gân adnabyddus bellach yn cael ei chanu ym mhob gêm y tîm rhyngwladol, felly man a man mynd i Hwyl y peth a chael y crys-t yma i fynd efo fo.

Cit newydd Cymru

Un peth y byddwn ni’n gweld tipyn ohono erbyn haf nesaf fydd cit newydd Cymru, sydd eisoes wedi cael ei rhyddhau gan adidas ar gyfer y twrnament.

Efallai eich bod chi’n hoff o ddyluniad syml y crys newydd, ffansi’r un ddu a gwyrdd oddi cartref, neu’n ffafrio un o rai retro y gorffennol, ond mewn blynyddoedd i ddod mi fydd y crys a wisgodd Cymru yn Ewro 2016 yn un i’w thrysori.

Mae gan JD Sports hefyd ddigon o ddillad Cymru eraill i ddewis ohono, o dracwisgoedd a chotiau i hwdis a hetiau.


Calendr 2016

Mae calendr yn un o’r anrhegion hynny sydd wastad yn boblogaidd o gwmpas y Nadolig wrth gwrs, gyda’r flwyddyn newydd ar fin cyrraedd.

Ond anghofiwch y rhai efo cathod ciwt, llanc-ddynion One Direction, Merched y Wawr noethlymun, neu flychau post mwyaf diddorol Sir Fynwy eleni.

Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ashley Williams a’r criw oedd sêr 2015, ac fe fyddan nhw’n edrych yn dda fyny ar y wal yn 2016 hefyd.

Crys-t ‘Byw’r Freuddwyd Gymraeg’

Mae Shwldimwl yn un o’r gwerthwyr crysau Cymraeg sydd â dewis da o dopiau ar thema pêl-droed, felly mi allwch chi ddewis fel y mynnwch.

Fe fydd y Cymry yn eu seithfed nef yn Ffrainc ym mis Mehefin, felly beth am grys-t Byw’r Freuddwyd Gymraeg er mwyn cynnal yr ysbryd optimistaidd yna drwy fisoedd y gaeaf?

Mae gan sawl cwmni arall yr un math o bethau, gan gynnwys Cowbois a’u crysau-t ‘G4R3TH B4LƎ’, ac mi rydan ni’n siŵr o weld rhagor o gynnyrch yn ymddangos yn fuan.

Geiriadur Cymraeg-Ffrangeg

Mae’n ddywediad cyfarwydd bod y Cymry’n “mynd i Lydaw, nid Ffrainc” ar eu gwyliau, ond nid felly fydd hi’n 2016 gyda’r pêl-droed yn digwydd.

Beth am dwrio drwy’ch ymennydd felly am yr ychydig Ffrangeg rydych chi’n ei gofio, lawrlwytho ap Duolingo i’r ffôn, a buddsoddi mewn geiriadur handi ar gyfer y daith? Vous voir en France!

Pêl swyddogol Ewro 2016

Mi fydd y cyffro o wylio tîm Cymru yn chwarae ar y llwyfan mawr yn siŵr o ysbrydoli chwaraewyr ifanc newydd, wrth gwrs. Beth well felly fel anrheg Nadolig na replica o’r bêl fydd yn cael ei defnyddio yn yr Ewros?

Mi fydd y plant wrth eu boddau, ac fe allai ddod yn handi i’r cefnogwyr hŷn hefyd pan fyddan nhw eisiau herio grŵp o gefnogwyr o wlad Ewropeaidd egsotig i gêm gyfeillgar ar sgwâr yng nghanol dinas yn Ffrainc ym mis Mehefin.