Mark Sampson
Mae’r Cymro Mark Sampson wedi cael ei enwi ar restr fer Hyfforddwr Merched y Flwyddyn 2015 yng ngwobrau blynyddol FIFA.

Fe fydd y gŵr 33 oed o Gaerdydd yn cystadlu â Jill Ellis o’r UDA a Norio Sasaki o Siapan, ar ôl arwain tîm merched Lloegr i’r trydydd safle yng Nghwpan y Byd y Merched eleni.

Cyn iddo gymryd yr awenau fel rheolwr pêl-droed merched Lloegr, roedd Sampson yn gweithio yng nghanolfan rhagoriaeth Abertawe rhwng 2007 a 2009.

Ar ôl hynny fe aeth yn rheolwr ar CPD Ffynnon Taf, cyn cael ei benodi’n rheolwr ar Academi Bryste yn Uwch Gynghrair Merched Lloegr.

Bale yn serennu

Mae seren tîm dynion Cymru Gareth Bale hefyd ar restr hir un o wobrau FIFA, a hynny ar ôl arwain y tîm cenedlaethol i bencampwriaethau Ewro 2016 yn Ffrainc yr haf nesaf.

Bydd ymosodwr Real Madrid yn cystadlu â 54 o chwaraewyr eraill i gael ei ddewis yn nhîm y flwyddyn, fydd yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni ar 11 Ionawr 2016.

Roedd Bale hefyd ar y rhestr hir o 23 ar gyfer gwobr y Ballon d’or- ar gyfer chwaraewr gorau’r byd, ond bellach mae honno wedi cael ei chwtogi i restr fer o dri – Lionel Messi, Cristiano Ronaldo a Neymar.