Casnewydd 3–0 Luton                                                                      

Sgoriodd Oliver McBurnie hatric wrth i Gasnewydd guro Luton ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn, eu buddugoliaeth gyntaf ers iddynt drechu’r un tîm fis Mawrth.

Hon oedd gêm gyntaf McBurnie ers iddo ymuno o Abertawe ar fenthyg ac er mai dim ond am ychydig dros hanner awr yr oedd ar y cae, fe rwydodd dair gôl.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe ddaeth McBurnie i’r cae toc cyn yr awr. Bum munud yn ddiweddarach roedd wedi rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd gydag ergyd isel o du allan i’r cwrt cosbi.

Dyblodd y fantais gyda’i ail ddeuddeg munud o’r diwedd cyn cwblhau ei hatric wedi gwaith creu Scott Boden bedwar munud o’r diwedd.

Mae Casnewydd yn aros yn unfed ar hugain yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent bellach saith pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Barnum-Bobb, Partridge, Bennett, Hughes, Rodman, Byrne, Klukowski (O’Sullivan 58′), Elito, John-Lewis (Boden 85′), Ansah (McBurnie 58′)

Gôl: McBurnie 63’, 79’, 86’

.

Luton

Tîm: Tyler, Lawless, Cuthbert, Wilkinson, Griffiths, Green, McGeehan (Doyle 67′), Smith, Lee (McCourt 80′), Marriott, McQuoid (Mackail-Smith 67′)

.

Torf: 2,551